Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â phroblemau Bathodyn Glas yn y Gogledd

  • Tweet
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf, 2024
  • Local News
Pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â phroblemau Bathodyn Glas yn y Gogledd

Heddiw mae Mark Isherwood, AS dros y Gogledd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, wedi tynnu sylw at y problemau y mae preswylwyr anabl yn y Gogledd yn eu hwynebu wrth ymgeisio am, a chael bathodynnau glas ac wedi galw am weithredu i fynd i'r afael â nhw.

Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yng nghyfarfod y Senedd brynhawn heddiw, soniodd Mr Isherwood am yr “anghysondebau, aneffeithlonrwydd ac anghyfiawnderau difrifol sy'n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol” a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud yn eu cylch.

Meddai:

“I lawer o oedolion a phlant anabl, a'u teuluoedd, mae cael trwydded parcio bathodyn glas yn allweddol i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol trefi a gwneud y mwyaf o'u hannibyniaeth. Wrth siarad yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ym mis Chwefror, dywedodd STAND Gogledd Cymru CIC - Cryfach Gyda'n Gilydd ar gyfer Anghenion Ychwanegol ac Anableddau - a gyflwynodd ddeiseb yn y Senedd i wneud ceisiadau am fathodynnau glas bara am oes i unigolion sydd wedi cael diagnosis oes, eu bod wedi darganfod trwy ymchwil nad oedd awdurdodau lleol naill ai'n ymwybodol o ddyfarniadau oes neu fod ganddynt ddealltwriaeth wahanol o'r hyn yr oedd yn ei olygu.

“Rhannodd siaradwr arall a gefnogais ei brofiad o wneud cais am fathodyn glas. Pan oedd ei gais y llynedd yn aflwyddiannus i ddechrau, cafodd wybod hefyd nad oedd proses apelio statudol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol. Mae fy ngwaith achos helaeth ar ran etholwyr yr effeithir arnyn nhw’n cadarnhau ac yn dystiolaeth o’r anghysondebau, yr aneffeithlonrwydd a’r anghyfiawnderau difrifol sy'n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Sut fyddwch chi'n ymgysylltu â chydweithwyr yn y Cabinet i fynd i'r afael â hyn?”

Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Bu nifer o adolygiadau o'r cynllun bathodyn glas dros y blynyddoedd diwethaf, ond, o ystyried bod y pwyntiau hyn wedi codi ar ddau ddiwrnod yn olynol yn y Senedd nawr, byddaf yn ymrwymo i godi hynny gyda fy nghyd-aelod pan fydd hi'n dychwelyd.”

 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree