Mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i gael copi o adroddiad Ernst & Young sy’n honni afreoleidd-dra ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr "er mwyn caniatáu craffu prydlon a thrylwyr gan y Pwyllgor".
Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar 'Arferion cadw cyfrifon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr' heddiw, lle galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Mr Isherwood ei fod wedi bod yn ceisio cael copi ers wythnosau a rhybuddiodd y bydd y Pwyllgor yn archwilio ei Bwerau i Alw o dan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 os na fydd yn cael copi o’r adroddiad.
Meddai:
"Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd ers rhai wythnosau i gael copi o'r adroddiad hwn er mwyn i’r Pwyllgor graffu arno’n ffurfiol.
"Rydyn ni wedi cynnig trafod gwahanol opsiynau ynghylch sut y gellir rhannu'r adroddiad hwn â ni er mwyn sicrhau nad yw unrhyw ymchwiliadau sydd ar waith yn cael eu rhwystro.
"Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau copi o'r adroddiad hwn trwy sianeli swyddogol cyn gynted â phosibl.
"Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o ddiddordeb y cyhoedd yn y materion hyn ac mae'n destun rhwystredigaeth er bod cynnwys yr adroddiad wedi’i rannu gyda’r cyhoedd, nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cael cyfle i gynnal gwaith craffu priodol.
"Mae'n hanfodol bod ein cais yn cael ei drafod yn gyflym, er mwyn caniatáu craffu prydlon a thrylwyr gan y Pwyllgor.
"Os na fydd yr adroddiad ar gael i'r Pwyllgor, byddwn yn archwilio ein Pwerau i Alw o dan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio na fydd angen i ni arfer y pŵer cyfreithiol hwn ac rwy’n disgwyl i'r Bwrdd Iechyd gydnabod y parch sy'n ddyledus i ddeddfwrfa genedlaethol, ar fater pwysig fel hwn."
Yn ystod y ddadl, dyfynnodd Mr Isherwood gyn-Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a ddywedodd bod diffygion a phryderon amrywiol a oedd yn amlwg ers cryn amser wedi eu huwchgyfeirio'n ffurfiol ddechrau mis Medi nid yn unig i'r Prif Swyddog Gweithredol ar y pryd ond hefyd i'r Gweinidog a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Yn syml, anwybyddodd Llywodraeth Cymru'r uwchgyfeiriadau hynny a'r sail iddynt. Dyfynnodd hefyd o Ddatganiad a gafodd ar ran cyn-Aelodau Annibynnol y Bwrdd Iechyd, lle'r oeddent yn nodi mai Llywodraeth Cymru a'r Tîm Gweithredol sy’n rhedeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod y Bwrdd yn cael ei esgeuluso ar adegau. Roedd hefyd yn dweud bod y rhai a oedd wedi brwydro i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli.
Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yn ei gyfarfod ar 3 Mai, wedi cael tystiolaeth gan gyn-aelodau anweithredol annibynnol y Bwrdd Iechyd, y gorfodwyd iddynt ymddiswyddo gan y Gweinidog. Roedd y dystiolaeth yn cynnwys:
- "... mewn gwirionedd yr aelodau annibynnol ar y pryd a gafodd Ernst & Young i mewn i wneud adolygiad manwl pellach annibynnol, ac ar hyn o bryd mae’n adroddiad sy’n amlwg heb ei rannu gyda’r cyhoedd ... Fel Aelodau Annibynnol, roeddem ni wedi’n syfrdanu gyda'r datganiad hwnnw o “ddim gweithredu pellach' gan adran gwrth-dwyll y GIG (Cymru), pan mae eitemau yn adroddiad Ernst & Young yn dangos yn eithaf clir sawl achos o afreoleidd-dra ariannol o swm sylweddol, nid yn unig o fewn Betsi, ond o bosibl yn ymestyn i adrannau eraill ar draws y GIG yng Nghymru, Byrddau Iechyd eraill, ac, mewn gwirionedd, yn syth i Lywodraeth Cymru ei hun."
- "Nid y perfformiad ariannol oedd yr unig faes a oedd yn peri pryder i ni... Dylid rhyddhau adroddiad Ernst & Young ... o ystyried yr hyn rydyn ni’n ei wybod."