Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig ac AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau bod pobl ifanc sy'n dioddef cam-fanteisio troseddol yn cael eu diogelu a'u cefnogi'n effeithiol.
Yng nghyfarfod y Senedd heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at dri argymhelliad y mae Gweithredu dros Blant wedi'u cyflwyno ar gyfer newid ar unwaith ar lefel Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r bobl ifanc hyn a gofynnodd i'r Cwnsler Cyffredinol, Julie James AS, pa drafodaethau y mae'n eu cael gyda'r elusen a chydweithwyr yn y Cabinet ynglŷn â'r argymhellion hyn.
Meddai:
“Fe gyhoeddodd Gweithredu Dros Blant ganfyddiadau adolygiad Jay o gam-fanteisio troseddol ar blant ym mis Mawrth eleni, sef adolygiad eang o gam-fanteisio ledled y DU, dan arweiniad Alexis Jay CBE. Fis diwethaf roedd eu hadroddiad dilynol cyntaf nhw ar adolygiad, 'I don't want to go down this road', yn archwilio maint y niwed a achosir gan gam-fanteisio ar blant ledled y DU drwy ddefnyddio data achosion diogelu o'r gwasanaethau camfanteisio troseddol y maen nhw'n eu cynnal.
“Fe wnaethon nhw dri argymhelliad ar gyfer newid ar unwaith ar lefel Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pobl ifanc sy'n dioddef camfanteisio troseddol yn cael eu diogelu a'u cefnogi mewn ffyrdd effeithiol: sef buddsoddi mewn gwasanaethau atal camfanteisio a chefnogaeth a anelir at bobl ifanc sy'n dioddef camfanteisio; cydnabod bod camfanteisio yn ffurf benodol o gam-drin plant; a dull sy'n blaenoriaethu lles o ran rheoli troseddau ac sy'n cael eu cyflawni gan blant sy'n dioddef camfanteisio. O ystyried eich datganiadau chi ar ddatganoli cyfiawnder a phrawf ieuenctid, pa drafodaethau a ydych chi'n eu cael felly gydag Gweithredu Dros Blant a chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â'r materion hyn?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol "Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad yn ofalus iawn ac yn gweld beth allwn ni ei wneud gyda'n pwerau presennol."