Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

System Anghenion Dysgu Ychwanegol Newydd yn rhoi pwysau enfawr ar deuluoedd

  • Tweet
Dydd Mercher, 2 Hydref, 2024
  • Local News
System Anghenion Dysgu Ychwanegol Newydd yn rhoi pwysau enfawr ar deuluoedd

Mae Mark Isherwood, yr AS dros y Gogledd a Chwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, wedi rhannu pryderon bod System Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd Cymru yn methu llawer o blant a phobl ifanc ac wedi rhybuddio y gellir disgwyl i'r cynnydd mewn atgyfeiriadau i Dribiwnlys Addysg Cymru y llynedd gynyddu hyd yn oed ymhellach.

Fe wnaeth Mr Isherwood, sy'n Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, ar Anabledd ac ar Faterion Pobl Fyddar, godi'r mater yn ystod cyfarfod y Senedd ddoe wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflenwi.

Meddai:

“Fe glywsom ni ym mis Mai, yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau, bod llawer gormod o blant a phobl ifanc yn methu â chael gafael ar gymorth o dan gyfundrefn newydd anghenion dysgu ychwanegol Cymru, sy'n golygu bod teuluoedd yn cael eu gyrru i'r pen. 

“Pan wnes i gyfarfod ag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, roedden nhw'n dweud wrthyf i nad yw'r system newydd yn gweithio, maen nhw'n cael eu llethu gan geisiadau am gymorth, ac mae plant a rhieni yn cael eu beio, eu cosbi a'u hysgytio. Roedd  adroddiad thematig Estyn ar y system ADY newydd yn 2023 yn argymell y dylai'r awdurdodau lleol sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u dyletswyddau dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dealltwriaeth gadarn ym mhob lleoliad o'r diffiniadau cyfreithiol a gynhwysir yn y Ddeddf, a'r cod, ac yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo'r ddealltwriaeth honno.

“Erbyn hyn, fe ellid disgwyl cynnydd eto yn niferoedd yr atgyfeiriadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o'u cymaru â llynedd. Felly, pa drafodaethau, os o gwbl, a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ynghylch canlyniadau ymarferol hyn, a pha gamau y bydd hi'n eu cymryd, o ystyried ei chylch gwaith ehangach, i sicrhau y bydd argymhellion Estyn ynghylch darpariaeth ddeddfwriaethol yn cael eu cyflawni gan yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru?”

Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol "mae'n amlwg bod hwnnw’n fater i’r  Ysgrifennydd Cabinet ymdrin ag ef".

Ychwanegodd:

“Wrth gwrs, dim ond ers ychydig wythnosau yr wyf i yn y swydd hon felly nid wyf i wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda phennaeth y gwasanaeth tribiwnlys yng Nghymru hyd yn hyn, ond fe fyddaf i'n cael y rhain mewn ystyr lawer mwy cyffredinol.”

Ychwanegodd Mr Isherwood:

“Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cynnwys hynny yn eich trafodaethau chi gyda'r tribiwnlys addysg, oherwydd y mae hynny o fewn eich cylch gwaith chi, fel deallais i hynny, nawr, sef cyflawniad Llywodraeth Cymru, felly heb holi ynglŷn â chywirdeb y polisïau neu fel arall, ond ar gyfer sicrhau bod cyflawniad yn cael ei fonitro a'r canlyniadau yn cael eu hasesu.”


 

 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree