Mae Mark Isherwood, yr AS dros y Gogledd a Chwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, wedi rhannu pryderon bod System Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd Cymru yn methu llawer o blant a phobl ifanc ac wedi rhybuddio y gellir disgwyl i'r cynnydd mewn atgyfeiriadau i Dribiwnlys Addysg Cymru y llynedd gynyddu hyd yn oed ymhellach.
Fe wnaeth Mr Isherwood, sy'n Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, ar Anabledd ac ar Faterion Pobl Fyddar, godi'r mater yn ystod cyfarfod y Senedd ddoe wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflenwi.
Meddai:
“Fe glywsom ni ym mis Mai, yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau, bod llawer gormod o blant a phobl ifanc yn methu â chael gafael ar gymorth o dan gyfundrefn newydd anghenion dysgu ychwanegol Cymru, sy'n golygu bod teuluoedd yn cael eu gyrru i'r pen.
“Pan wnes i gyfarfod ag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, roedden nhw'n dweud wrthyf i nad yw'r system newydd yn gweithio, maen nhw'n cael eu llethu gan geisiadau am gymorth, ac mae plant a rhieni yn cael eu beio, eu cosbi a'u hysgytio. Roedd adroddiad thematig Estyn ar y system ADY newydd yn 2023 yn argymell y dylai'r awdurdodau lleol sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u dyletswyddau dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dealltwriaeth gadarn ym mhob lleoliad o'r diffiniadau cyfreithiol a gynhwysir yn y Ddeddf, a'r cod, ac yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo'r ddealltwriaeth honno.
“Erbyn hyn, fe ellid disgwyl cynnydd eto yn niferoedd yr atgyfeiriadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o'u cymaru â llynedd. Felly, pa drafodaethau, os o gwbl, a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ynghylch canlyniadau ymarferol hyn, a pha gamau y bydd hi'n eu cymryd, o ystyried ei chylch gwaith ehangach, i sicrhau y bydd argymhellion Estyn ynghylch darpariaeth ddeddfwriaethol yn cael eu cyflawni gan yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol "mae'n amlwg bod hwnnw’n fater i’r Ysgrifennydd Cabinet ymdrin ag ef".
Ychwanegodd:
“Wrth gwrs, dim ond ers ychydig wythnosau yr wyf i yn y swydd hon felly nid wyf i wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda phennaeth y gwasanaeth tribiwnlys yng Nghymru hyd yn hyn, ond fe fyddaf i'n cael y rhain mewn ystyr lawer mwy cyffredinol.”
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cynnwys hynny yn eich trafodaethau chi gyda'r tribiwnlys addysg, oherwydd y mae hynny o fewn eich cylch gwaith chi, fel deallais i hynny, nawr, sef cyflawniad Llywodraeth Cymru, felly heb holi ynglŷn â chywirdeb y polisïau neu fel arall, ond ar gyfer sicrhau bod cyflawniad yn cael ei fonitro a'r canlyniadau yn cael eu hasesu.”