Heddiw mae Mark Isherwood, Aelod o’r Senedd Gogledd Cymru, sy’n Gadeirydd ar Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Awtistiaeth a Materion Pobl Fyddar, wedi cadeirio a siarad mewn digwyddiad yn y Senedd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl.
Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, pwysleisiodd Mr Isherwood yr angen i bawb gydweithio i ddileu rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb.
Soniodd hefyd am yr uchelgais i gael mwy o bobl anabl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl yn hyrwyddo hawliau a lles Pobl Anabl, a’r thema eleni yw “Tynnu sylw at arweinyddiaeth pobl anabl ar gyfer dyfodol cynhwysol a chynaliadwy”.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mr Isherwood, sy’n Hyrwyddwr Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau yn y Senedd hefyd:
“Un o egwyddorion craidd democratiaeth gynrychioliadol yw bod gan bob rhan o’r cyhoedd hawliau a chyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn penderfyniadau gwleidyddol, fel dinasyddion ac fel cynrychiolwyr.
“Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, lansiwyd Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn y Senedd amser cinio heddiw, sef prosiect sy’n cael ei redeg gan Anabledd Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
“Ei ddiben yw cael mwy o bobl anabl i swyddi gwleidyddol yn y Senedd ac mewn Llywodraeth Leol.
“Er bod gan dros 20% o bobl sy’n byw yng Nghymru gyflwr iechyd neu nam, dydy hynny ddim yn cael ei gynrychioli mewn Llywodraeth Genedlaethol na Lleol.
“Yn Senedd y DU, dywedodd cyfanswm o 8 AS, neu 1.2%, fod ganddynt anabledd yn Senedd 2019-2024, gyda’r nifer yn cynyddu i 12 AS, ychydig o dan 2%, ar ôl Etholiad Cyffredinol 2024. Nid oes gennym unrhyw ddata cyfatebol ar gyfer y Senedd.”
Aeth Mr Isherwood ymlaen i siarad am Fframwaith a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, “Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol”, sy’n datgan bod y Model Cymdeithasol o Anabledd “yn gwahaniaethu mewn ffordd bwysig rhwng ‘amhariad’ ac ‘anabledd’.
Meddai:
“Mae’n cydnabod bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanalluogi gan rwystrau sy’n bodoli’n gyffredin mewn cymdeithas. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol, a rhwystrau corfforol a sefydliadol, a all atal cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’n golygu bod gofyn i ni weithio gyda’n gilydd i ddileu rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb.”
Cyfeiriodd Mr Isherwood hefyd at ei Fil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), sydd bellach yn mynd trwy broses Bil y Senedd ac sy’n agored i Ymgynghoriad Cyhoeddus ar hyn o bryd.
Meddai:
“Ei ddiben yw gwneud darpariaeth i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru; gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus mewn BSL a helpu i gael gwared ar rwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar a’u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.
“Er bod hyn wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw’n gweld angen amdano.”
Siaradodd Mr Isherwood am ei amhariad ei hun fel rhywun ag Amhariad ar y Clyw, a chanmolodd Senedd Cymru am ddarparu’r offer sydd ei angen arno bob amser i ddilyn y trafodion ac ymateb yn gadarnhaol pan fydd rhwystrau i fynediad i bobl anabl wedi’u hamlygu, er iddo bwysleisio “mae angen iddi gynnwys Aelodau a Staff Anabl cyn gwneud penderfyniadau”.
Ychwanegodd:
“Rwy’n clywed bron bob dydd gan bobl anabl, cymunedau a gofalwyr sy’n gorfod brwydro am y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ac y mae ganddynt hawl iddynt, i’w galluogi i fyw bywyd annibynnol.
“Er gwaethaf yr hawliau presennol sy’n bodoli, mae’n rhaid i ni fynd ymhellach, gan droi deddfwriaeth a chodau’n weithredu, i roi llais, dewis, rheolaeth ac annibyniaeth go iawn i bobl anabl.”