Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

AS yn galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Cod ADY Cymru

  • Tweet
Dydd Mercher, 10 Gorffennaf, 2024
  • Local News
AS yn galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Cod ADY Cymru

Mae Mark Isherwood, yr AS dros y Gogledd a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, ar Anabledd ac ar Faterion Byddar, wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, y Cod ADY.

Fe wnaeth Mr Isherwood, a gafodd gyfarfod â’r ymgyrch Diwygio ADY Cymru ym mis Mai i drafod y rhesymau wrth wraidd eu deiseb a ddenodd 15,160 o lofnodion i Bwyllgor Deisebau'r Senedd yn galw am ddiwygio Cod ADY Llywodraeth Cymru, godi’r mater yn y Datganiad Busnes ddoe.

Meddai:

“Wrth ymateb yma i'r ddadl ar 8 Mai ar y ddeiseb ar hyn, daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r casgliad: 'rydyn ni’n clywed yn rhy aml fod teuluoedd plant ag ADY yn gorfod brwydro am y gefnogaeth a'r addysg gywir, a rhaid i hyn newid'.

“Fe wnes i gyfarfod wedyn ag ymgyrch Diwygio ADY Cymru.

“Rwy'n galw am Ddatganiad yn ateb eu cwestiwn: 'O ble mae'r atebolrwydd ar hyn yn dod?' “

Meddai’r Trefnydd, Jane Hutt AS:

“Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi clywed eich galwadau, o ran edrych ar y cod ADY a'r hyn y mae'n ei olygu a sut mae'n cael ei gyflawni. Mae'n ymwneud â gweithredu, sef yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Addysg yn ymwneud ag ef.”

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:

“Yn fy nghyfarfod gydag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, fe wnaethant rannu’r wybodaeth maen nhw wedi'i chasglu a dweud wrthyf nad yw'r system newydd yn gweithio, eu bod wedi derbyn straeon di-rif am blant a fethwyd neu a adawyd ar ôl gan y system newydd, eu bod yn derbyn toreth o geisiadau am gymorth, bod plant a rhieni'n cael eu beio a'u cosbi, a'u bod yn derbyn mwy fyth o dystiolaeth o drawma yn dod o'r ysgol am nad yw athrawon ac ysgolion yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi – a gofynnodd 'o ble mae'r atebolrwydd yn dod?' “

“Mae'n hanfodol bod eu cwestiwn yn cael ei ateb a byddaf yn chwilio am gyfle pellach i godi hyn yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.”

 

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Pryderon bod cynigion y corff cystadleuaeth a marchnadoedd ar feddyginiaethau milfeddygol yn wrth-gystadleuol ac yn annhebyg o leihau biliau milfeddygol

Mark Isherwood AS: Pryderon bod cynigion y corff cystadleuaeth a marchnadoedd ar feddyginiaethau milfeddygol yn wrth-gystadleuol ac yn annhebyg o leihau biliau milfeddygol

Dydd Iau, 11 Rhagfyr, 2025
Wrth siarad mewn Dadl Fer yn y Senedd ddoe, tynnodd Mark Isherwood, AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, sylw at bryderon am effaith bosibl cynigion yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) mewn perthynas â meddyginiaethau milfeddygol.Yn ystod y Ddadl, 'Meddiannu corfforaethol o ran practisau mil

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree