Ddydd Sadwrn, cynhaliwyd 'Gŵyl Ali' er cof am Alastair Thomas, a oedd yn cael ei adnabod fel Ali, ac a oedd yn ganwr a cherddor o'r Fflint.
Gofynnodd mam Ali, Dee Pinnington, i Mr Isherwood siarad yn y digwyddiad am y rhan bwysig y gall pob teulu a ffrind ei chwarae wrth gefnogi unrhyw un sy'n byw gyda diabetes Math 1, a'i ran ef wrth fynd ag etifeddiaeth Ali i'r Senedd.
Meddai:
“Ym mis Mawrth y llynedd fe wnes i alw am Ddatganiad ar godi ymwybyddiaeth o ketoacidosis diabetig, neu DKA, cymhlethdod diabetes math 1, ar ôl cwrdd â mam o sir y Fflint, Dee Pinnington, i drafod ei hymgyrch codi ymwybyddiaeth, yn dilyn marwolaeth ei mab Alistair, neu Ali, Thomas yn 2018 o DKA.”
“Wrth siarad yma fis Hydref diwethaf, nodais fod Dee Pinnington wedi trefnu gŵyl gerdd, Gŵyl Ali 2024, yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf eleni, gyda'r holl arian a godir yn cael ei roi i Diabetes UK Cymru.
“Agorais yr ŵyl hon ddydd Sadwrn diwethaf.
“Mae codi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl sydd naill ai'n byw gyda, yn gweithio gyda, yn ffrindiau gyda neu'n dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â diabetes math 1 yn hanfodol, lle mae deall y symptomau a rhybuddio gwasanaethau meddygol yn briodol, fel y gallan nhw gategoreiddio eu cymorth a blaenoriaethu ambiwlans, yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
“Rwy'n galw am Ddatganiad yn unol â hynny.
Wrth ymateb i Lywodraeth Cymru, dywedodd y Trefnydd, neu Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt:
“Nid oes gen i unrhyw gwestiwn o gwbl – amheuaeth – bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn deall yn llwyr. Ac mae'r adborth, wrth gwrs, gan bobl â diabetes, yn enwedig eu profiad fel cleifion eu hunain, o ran symptomau a chymhlethdodau, yn bwysig iawn i’w adrodd yn ôl, ac, wrth gwrs bydd pawb sy'n gysylltiedig yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohono.”