Heddiw, mae Mark Isherwood, AS dros Ogledd Cymru, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru a gaiff eu heffeithio'n ddifrifol gan doriadau Llywodraeth Lafur y DU i Daliadau Tanwydd y Gaeaf.
Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid canlyniadol HS2 i Gymru ac i fwrw ymlaen â thrydaneiddio prif lein y Gogledd.
Yng nghyfarfod Senedd Cymru y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood fod llawer i'w gymeradwyo yng nghynnig Plaid Cymru, gan gynnwys ei galwad ar Lywodraeth Cymru i bennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG a chyhoeddi cynllun cyflawni yn seiliedig ar 'flaenoriaethau'r bobl’.
Fodd bynnag, dywedodd o ystyried bod Plaid Cymru “wedi bod yn cynnal y rhan fwyaf o Lywodraethau Llafur Cymru ers 1999, wedi pleidleisio dros lawer o’u polisïau llym – megis 20 mya – a hefyd yn galw’n barhaus am bwerau pellach i Lywodraeth sy’n methu gwneud y defnydd gorau o’r pwerau sydd ganddi eisoes, mae'r cynnig hwn yn ymddangos braidd yn rhagrithiol ar y gorau!”
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd:
“Yn amlwg, mae’n drueni na allai Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl 25 mlynedd mewn Llywodraeth, weld beth yw blaenoriaethau pobl Cymru heb gynnal yr ‘ymarfer gwrando’ a gychwynnwyd gan y Prif Weinidog, a bod unrhyw gerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o'i datganiad o flaenoriaethau
“Mae’n gwbl briodol hefyd galw ar Lywodraeth Cymru i bennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG, cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar ‘flaenoriaethau’r bobl’, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni, a chyflwyno Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Ddeddfwriaethol ddiwygiedig.”
Dywedodd hefyd bod y cynnig yn llygad ei le yn “tynnu sylw at y rhestrau aros anferthol yn GIG Cymru: Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau amseroedd aros yng Nghymru gynnydd arall yn y bobl sy’n disgwyl ar restrau aros y GIG.
“Mae bron i 800,000 o driniaethau ar y rhestrau aros hynny erbyn hyn, a thros 600,000 o bobl yng Nghymru yn disgwyl i gael un neu ddwy o’r triniaethau hynny.
“Mae amseroedd aros dwy flynedd wedi cynyddu eto am y trydydd mis yn olynol i 23,418 yng Nghymru, o gymharu â dim ond 120 yn Lloegr, gydag ugain gwaith y boblogaeth.
“Addawodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog, ddileu’r amseroedd aros hyn erbyn mis Mawrth 2023, ond methodd gyflawni'r targed hwnnw.
“Mae’r nifer sy’n disgwyl dros flwyddyn am unrhyw apwyntiad yn 160,000 yn awr.
“Ond o ystyried mai poblogaeth o ychydig dros dair miliwn o bobl sydd gan Gymru, mae hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar stiwardiaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae’r rhestrau aros hyn yn debygol o waethygu y gaeaf hwn am nad yw Llywodraeth Cymru’n gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr tlawd o ran tanwydd yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio’n andwyol gan doriadau Llywodraeth Lafur y DU i daliadau tanwydd y gaeaf.”
Ychwanegodd:
“Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio eu sianeli rhynglywodraethol honedig i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid canlyniadol yn sgil HS2 i Gymru, ac i fwrw ymlaen â'r gwaith o drydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru. Rwy'n cynnig gwelliant 3 yn unol â hynny, er, a minnau'n Aelod yma y tro diwethaf y cafwyd Llywodraethau Llafur yn Llundain a Chaerdydd, nid wyf yn dal fy ngwynt.”
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn brolio am ei pholisïau a’i deddfwriaeth ond yn methu monitro a gwerthuso’r modd y cânt eu rhoi ar waith.
Maent yn honni eu bod yn malio, wrth reoli sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n rhydd i fwlio, beio, bygwth a chosbi pobl agored i niwed a staff egwyddorol sy’n meiddio chwythu’r chwiban a chrybwyll problemau neu ddatgelu camweinyddu.”