Wrth siarad yng Nghynhadledd Profedigaeth a Lles Meddyliol Cymru 2024, galwodd Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, am well gofal a chymorth i bobl mewn profedigaeth yng Nghymru.
Pwysleisiodd Mr Isherwood, sy’n Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth yn y Senedd, nad oes digon yn cael ei wneud ar hyn o bryd i helpu’r rhai sydd wedi colli anwyliaid, a chyfeiriodd at yr elusen Cymru gyfan ‘2 Wish Upon A Star’, sy'n darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn drawmatig, a allai ddeillio o hunanladdiad neu a allai fod oherwydd damwain neu salwch.
Dywedodd hefyd fod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ofal Lliniarol a Hosbisau, y mae hefyd yn Gadeirydd arno, wedi cynnig pedwar argymhelliad, “i wella gofal a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar ôl iddynt golli rhywun annwyl”.
Wrth siarad yn y Gynhadledd, a gynhaliwyd ddydd Gwener, meddai:
“Dair blynedd yn ôl, cynhaliodd y Senedd ddadl ar Gymorth Profedigaeth Hunanladdiad, a siaradais ynddi.
“Yn ystod y ddadl, nodwyd bod o leiaf chwech o bobl yn cael eu heffeithio’n fawr gan bob hunanladdiad, bod person sydd wedi cael profedigaeth trwy hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o geisio lladd ei hun, bod llawer o bobl sydd wedi cael profedigaeth yn y modd hwn yn ei chael hi’n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, bod yn rhaid i ni ddarparu gwell gwybodaeth a chymorth i’r rheini sydd mewn profedigaeth neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt, a bod yn rhaid cydnabod cymorth i’r grŵp hwn fel elfen allweddol o atal hunanladdiad.
“Cyfeiriwyd at sylfaenydd yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star.
“Roedd hi wedi dweud wrthyf o’r blaen mai marwolaeth sydyn yw’r farwolaeth anghofiedig yng Nghymru, ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol yng Nghymru i bob pwrpas, gan weithio gyda phob Bwrdd Iechyd a phob gwasanaeth Heddlu, nid oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth statudol o gwbl, gan orfod codi pob un geiniog eu hunain, er gwaethaf lleihau'r pwysau ar Dimau Iechyd Meddwl, helpu i fynd i'r afael â thrawma marwolaeth a cholled na ellir eu rhagweld.
“Dywedodd iddi ddechrau ei brwydr ar ôl i’w gŵr a’i mab gael eu cymryd oddi wrthi’n sydyn — dim paratoad, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai — a bod y diffyg cefnogaeth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at ei gŵr yn rhoi diwedd ar ei fywyd ei hun.
“Mae Cruse Bereavement Care, prif elusen profedigaeth y DU, yn credu y gall mynediad at y cymorth cywir, wedi’i deilwra i anghenion pob person mewn profedigaeth, eu helpu i ymdopi â her galar ac adeiladu bywyd ystyrlon, wrth gofio a dathlu bywydau’r rheini maen nhw wedi’u colli. Yn ei dro mae hyn, medden nhw, yn gallu helpu i wella iechyd meddwl a lleihau'r effaith ar wasanaethau'r GIG.
“Cyn Etholiad diwethaf y Senedd, roedd Cruse yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru ar y pryd i gael Gweinidog â chyfrifoldeb am brofedigaeth a strategaeth drawsadrannol, ac am gyllid lleol ar gyfer cymorth profedigaeth o ansawdd uchel, oherwydd bod yna ormod o bobl yn dal i fod heb gymorth ar ôl profedigaeth, ac mewn gormod o ardaloedd, does dim cyllid statudol ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl mewn galar.
“Roedden nhw hefyd yn galw am gymunedau mwy tosturiol, lle mae pawb yn gwybod digon am alar i chwarae eu rhan wrth gefnogi pobl pan fo marwolaeth yn digwydd.
“Dywedodd Marie Curie fod sicrhau cefnogaeth ddigonol i deuluoedd sy’n profi profedigaeth yn rhan bwysig o’r broses o farwolaeth ac o farw.”
Ychwanegodd:
“Roedd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hosbisau a Gofal Lliniarol, yr wyf fi’n ei gadeirio hefyd, wedi cynnig pedwar argymhelliad i wella gofal a chymorth i bobl mewn profedigaeth yng Nghymru, a thrwy hynny sicrhau canlyniadau gwell i bobl ar ôl colli anwyliaid:
“Yn gyntaf, gwella data ar yr angen am gymorth profedigaeth lle, oherwydd diffyg asesiad cadarn o anghenion, mae’n anodd iawn ar hyn o bryd i wasanaethau gynllunio i ddiwallu angen neu ddeall pa adnoddau y gallai fod eu hangen arnyn nhw i wneud hynny.
“Yn ail, gwneud profedigaeth yn nodwedd allweddol o bob polisi perthnasol i’w ystyried a’i ymwreiddio yn strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys iechyd meddwl a lles oedolion ac iechyd meddwl a lles plant.
“Yn drydydd, ymwreiddio cymorth profedigaeth mewn ysgolion. Ac, yn bedwerydd, gwneud y ddarpariaeth o ofal profedigaeth yn gynaliadwy, lle mae’r diffyg blaenoriaethu strategol a pholisi ar gyfer cymorth profedigaeth i’w weld yn y lefelau isel iawn o gyllid statudol ar gyfer gofal i’r rhai mewn profedigaeth.”
Soniodd Mr Isherwood, sydd hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar, am yr angen am wasanaeth iechyd meddwl Byddar yng Nghymru.
Wrth gloi ei sylwadau, meddai:
“Fel y clywsom drwy gydol y Gynhadledd hon, mae mynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth ac atal hunanladdiad yn hollbwysig, gan weithio i dorri’r stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad a mynd ati i ymgysylltu â’r Llywodraethau i gynyddu cymorth gydag angladdau i deuluoedd y mae’r drasiedi hon yn effeithio arnynt.
“Er efallai ein bod ni wedi colli rhywun, rhaid i ni beidio ag anghofio eu hanwyliaid.
“Mae Trefnwyr Angladdau ar reng flaen gofal profedigaeth a, gyda’n gilydd, gallwn gynnig cefnogaeth, achub bywydau, a darparu urddas mewn marwolaeth.”