Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi mynegi pryder y bydd cynnydd Yswiriant Gwladol Llywodraeth y DU yn cael effaith negyddol ar wasanaethau sy'n cael eu darparu gan hosbisau a chyrff elusennol eraill.
Wrth siarad yn y ddadl ddiweddar ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, cyfeiriodd Mr Isherwood at ddatganiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru bod y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol ‘yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei fforddio heb effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt’, a phwysleisiodd fod hyn yn berthnasol i gyrff yn amrywio o Hosbisau yng Nghymru i elusen Adferiad, sy'n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a dibyniaeth.
Meddai:
"Un o ganlyniadau niweidiol cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU oedd y codiad i'r yswiriant gwladol i elusennau a chyrff trydydd sector. Mae ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd y cynnydd treth blynyddol cyfartalog i gyflogwyr yn fwy na £800 y gweithiwr. Gyda thua 134,500 o bobl yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, hyd yn oed gyda gwaith rhan-amser, byddai hyn yn awgrymu cynnydd o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn ym mil yswiriant gwladol y sector.
“Fel y dywed Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: ‘Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn’. Mae hon yn gost newydd sylweddol, medden nhw, ‘na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.’
"Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn, a fydd dim ond yn cael eu diogelu os yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector elusennol ac yn lliniaru'r polisi cibddall hwn. Mae hyn yn berthnasol i gyrff sy'n amrywio o hosbisau yng Nghymru, sy'n wynebu heriau ariannol difrifol ac yn gorfod ystyried toriadau sylweddol, a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu darparu yn eu lle nhw; i Cymorth i Fenywod Cymru, sy’n wynebu costau cynyddol, penderfyniadau amhosibl a chyllidebau tynn; i'r elusen dan arweiniad aelodau, Adferiad, sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ag anghenion iechyd meddwl, caethiwed ac anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd, a ddywedodd wrthyf ddydd Gwener diwethaf, o ran Yswiriant Gwladol yn unig, y bydd cyllideb y Canghellor yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb unrhyw liniaru bydd yn rhaid iddynt adael i staff fynd a lleihau gwasanaethau. Oni bai bod Cyllideb Llywodraeth Cymru yn galluogi'r gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan sefydliadau fel y rhain i barhau a thyfu, bydd y galw am adnoddau ar wasanaethau cyhoeddus statudol yn tyfu’n esbonyddol."
Yn ystod y ddadl, dyfynnodd Mr Isherwood ddatganiad Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd fod mesurau yng Nghyllideb Canghellor y DU fis Hydref diwethaf "yn debygol o gadw chwyddiant a chyfraddau llog yn uwch, gan arwain at dwf arafach yn y blynyddoedd diweddarach" a nododd fod arolwg ar ôl y gyllideb gan y CBI wedi datgelu bod bron i ddwy ran o dair o gwmnïau wedi dweud y byddai'r Gyllideb yn niweidio buddsoddiad y DU, gyda hanner y cwmnïau yn ceisio lleihau nifer eu gweithwyr o ganlyniad, gan ychwanegu "yn gyffredinol, bydd hyn felly’n golygu refeniw treth is, gwariant is gan y Llywodraeth, toriadau i wasanaethau hanfodol ac o ganlyniad, pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus".