Wrth siarad yn Nadl y Senedd heddiw ar Adroddiad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, cyfeiriodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, at ddioddefwyr gwaed heintiedig yn y rhanbarth a thynnu sylw at yr effaith y mae wedi'i chael ar eu bywydau.
Dywedodd Mr Isherwood ein bod yn gwybod bod tua 400 o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio â HIV a hepatitis C ar ôl cael cynhyrchion gwaed halogedig, heb gynnwys y rhai a fu farw heb wybod eu bod wedi'u heintio, a bod Haemophilia Wales yn datgan bod 283 o gleifion yng Nghymru wedi'u heintio â hepatitis C yn y 1970au a'r 1980au, a bod dros 70 o bobl â hemoffilia wedi marw yng Nghymru yn unig.
Meddai:
"Fel y dywedodd yr ymchwiliad pum mlynedd, nid damwain oedd Gwaed Heintiedig ac roedd modd ei osgoi, roedd y gwir wedi'i guddio ac fe gafodd dioddefwyr eu methu dro ar ôl tro.
"Mae Haemophilia Wales wedi gofyn i mi siarad am effaith gwaed heintiedig ar Jane Jones a'i theulu yn y Gogledd.
"Cafodd Jane Jones ei heintio â Hepatitis C wrth gael triniaeth ar gyfer Clefyd Von Willebrand, anhwylder ceulo prin. Ni chafodd Jane wybod am ei bod wedi’i heintio.
"Cafodd ei diweddar fam Annona ei heintio â hepatitis C hefyd a chafodd y ddwy drawsblaniad yr afu oherwydd hepatitis C.
"Roedd y ddwy yn honni nad oedden nhw erioed wedi cael gwybod am risgiau'r driniaeth ac na chawsant wybod wedyn eu bod wedi’u heintio.
"Fel y dywedodd Jane yn ei datganiad i'r ymchwiliad: 'Mae cael eich heintio â hepatitis C yn rhywbeth na fyddech chi’n ei ddymuno ar anifail'.
"Mae etholwr o Sir Ddinbych, Rose Richards, hefyd wedi ysgrifennu yn gofyn i mi siarad ar ei rhan yn y ddadl hon.
"Mae’r achos wedi effeithio arni fel cludwr y genyn Hemoffilia ac fel chwaer i frawd Hemoffilig a fu farw o AIDS yn 46 oed ym 1990 ar ôl derbyn triniaeth Ffactor VIII halogedig yn gynnar yn y 1980au.
"Mae hi hefyd yn Gyfranogwr Craidd yn yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ac mae wedi cyflwyno dau ddatganiad ysgrifenedig iddo.
"Gwnaeth benderfyniad ynghylch a ddylai gael plant yn seiliedig ar wybodaeth a oedd yn celu’r gwir am y risg hysbys o niwed difrifol.
Mae gan ei meibion, a anwyd ym 1983 a 1985, Hemoffilia ill dau. Yn ffodus doedd dim angen Ffactor VIII ar yr un ohonyn nhw nes ei fod yn gynnyrch mwy diogel ar ddiwedd y 1980au.
"Fel mae hi'n dweud "fodd bynnag, mae'r profiadau o glywed am rieni eraill yn colli eu plant wedi bod yn ddirdynnol nawr ein bod ni'n gwybod y gwir am y sgandal".
"Ychwanegodd, er bod Syr Brian Langstaff yn argymell y dylai’r taliadau cymorth parhaus presennol o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru barhau i bobl sydd wedi'u heintio a gŵyr/gwragedd neu bartneriaid pobl sydd wedi’u heintio, ac y dylid talu iawndal yn ychwanegol at y taliadau cymorth, ni fu unrhyw ymrwymiad i anrhydeddu hyn.
"Gorffennodd drwy ddweud, "fel grŵp rydyn ni’n bryderus iawn am unrhyw oedi pellach gan y Llywodraeth. Mae dioddefwyr yn parhau i farw ar gyfradd o un bob pedwar diwrnod heb gyfiawnder"."
Ychwanegodd Mr Isherwood:
"Wrth siarad yma yn y ddadl yn 2017 yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drasiedi gwaed halogedig y 1970au a'r 1980au, dyfynnais Monica Summers, a gollodd ei gŵr, Paul, dioddefwr banc gwaed halogedig, ar 16 Rhagfyr 2008 yn 44 oed. Roedd eu merch yn 5 oed.
"Dywedodd Monica "Bob dydd am 18 mis roedd hi'n gofyn 'pryd mae dad yn dod adre?' Roedd hi’n 13 oed ym mis Hydref ac mae'r ddwy ohonom ni’n ei chael hi’n anodd o hyd.
"Doedd gan fy ngŵr ddim dewis, fe gafodd y dewis ei wneud drosto a chollodd ei fywyd oherwydd penderfyniadau a wnaed gan bobl eraill. Ond dros 30 mlynedd yn ddiweddarach rydyn ni’n dal i geisio dod i gytundeb.
"Gadewch i'r penderfyniadau nesaf gael eu gwneud gan leisiau pobl sy'n dioddef o HIV a Hepatitis C ar hyn o bryd, gan y gweddwon a'r teuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl yn ceisio gwella ac adeiladu bywyd normal newydd." Bydd eu merch yn 20 oed nawr.
"Fel y dywedais bryd hynny, ‘mae gwaed halogedig wedi cael - ac yn parhau i gael - effaith ddinistriol ar fywydau miloedd o bobl sydd wedi'u heintio a'u teuluoedd'."