Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ynghylch y setliadau cyllido gwael sydd wedi'u dyrannu i Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd, gan gyfeirio at yr effaith y mae hyn wedi'i chael yn Sir y Fflint.
Yng nghyfarfod y Senedd brynhawn ddoe, gofynnodd Mr Isherwood i Ysgrifennydd y Cabinet sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol awdurdodau lleol.
Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet ateb "Mae fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau ariannol ac atebolrwydd ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys archwilio mewnol ac allanol a chraffu lleol", cyfeiriodd Mr Isherwood at setliadau cyllido gwael a dderbyniwyd gan Awdurdodau Lleol ledled Gogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd, a phryderon a godwyd gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.
Meddai:
“Wel, ers dros ddau ddegawd rwyf wedi bod yn tynnu sylw at effaith ariannol annheg fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Lafur Cymru ar awdurdodau lleol sydd bob amser yn cael eu gadael yn agos i'r gwaelod, gan gynnwys sir y Fflint. Wrth siarad yma bron i bum mlynedd yn ôl, nodais fod sir y Fflint eto ymhlith y cynghorau a oedd yn wynebu'r toriadau mwyaf, er gwaethaf ymgyrch Back the Ask gan gynghorwyr sir y Fflint yn galw am gyfran deg o arian. Wrth siarad yma ym mis Mawrth, fe wneuthum nodi pryder fod pedwar cyngor yng ngogledd Cymru unwaith eto ymhlith y chwech a oedd yn cael y setliadau isaf yng Nghymru.
“Ym mis Medi, daeth adroddiad Archwilio Cymru i'r casgliad fod cynaliadwyedd ariannol allanol cyngor sir y Fflint yn wynebu risg ddifrifol. Felly, sut y byddech chi'n ymateb i'r datganiad yr wythnos diwethaf gan aelod cabinet sir y Fflint dros drawsnewid ac asedau: 'Mae'n sefyllfa od iawn pan fo Archwilio Cymru yn gofyn i ni edrych ar y tymor canolig a'r tymor hir pan na all Llywodraeth Cymru roi amcangyfrif tair blynedd i ni hyd yn oed o'r hyn rydym i fod i'w gael', ac i'r datganiad gan brif weithredwr y cyngor: 'Yn sir y Fflint, mae cyngor sy'n cael ei ariannu'n isel yn gyson yn ffactor sy'n cyfrannu at ble rydym ni heddiw'?
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“O ran y fformiwla ariannu, mae dros dri chwarter y fformiwla ariannu a ddosberthir drwy fformiwla setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Rwyf wedi trafod y fformiwla gyda nifer o arweinwyr awdurdodau lleol dros yr wythnosau diwethaf, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol mewn partneriaeth â hwy ar hyn.
“Bob blwyddyn, mae rhai awdurdodau'n cael cynnydd llai nag eraill oherwydd newidiadau cymharol yn niferoedd y boblogaeth a disgyblion, er enghraifft, ond mae'n bwysig cofio bod y fformiwla'n gweithredu ar newid cymharol. Efallai fod awdurdod yn dangos llai o boblogaeth ond y ffactor pwysig ar gyfer y fformiwla yw sut y mae'r newidiadau hynny'n cymharu ag awdurdodau lleol eraill. Ond fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud gyda llywodraeth leol, yn hytrach nag i lywodraeth leol.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae data'n cael ei ddiweddaru ar fesurau o fewn y fformiwla gyllido hen ffasiwn hon sy'n hepgor nodweddion ac anghenion allweddol y boblogaeth."