Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi bod yn holi’r Prif Weinidog y prynhawn yma ynghylch camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Mentrau Bach a Chanolig (BBaCh) yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol, gan dynnu sylw at yr anawsterau sy'n wynebu Cwmnïau Adeiladu Cymru.
Wrth siarad yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw, cyfeiriodd Mr Isherwood at adroddiad newydd sydd wedi datgelu bod nifer cynyddol o gwmnïau adeiladu yng Nghymru yn wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a gofynnodd i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr contractwyr busnesau bach a chanolig i sicrhau y gall y sector barhau i adeiladu.
Meddai:
“Ni allwn adeiladu adeiladau cyhoeddus cynaliadwy heb gwmnïau adeiladu. Yng Nghymru, mentrau bach a chanolig, neu BBaChau, yw'r rhain yn bennaf. Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig wedi tynnu sylw at nifer cynyddol o gwmnïau adeiladu yng Nghymru sy'n wynebu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan roi'r bai am hyn ar faterion sy'n cynnwys argyfwng sgiliau, ynghyd â phrosesau tendro rhy gymhleth a diffyg cefnogaeth llywodraeth leol.
“Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr un o'r BBaChau adeiladu hyn y byddai proses symlach yn caniatáu i BBaChau gystadlu am gontractau sector cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys lleihau a symleiddio'r meini prawf cymhwyso a chyflwyno gofynion cymesur ar gyfer prosiectau llai. Aeth ymlaen i ddweud bod prosesau tendro yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus, yn aml yn gofyn am gydymffurfiad â rheoliadau penodol i Lywodraeth Cymru, a all gymhlethu ceisiadau.
“Felly, sut wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda chynrychiolwyr contractwyr BBaChau, gan gynnwys y Sefydliad Adeiladu Siartredig, i sicrhau sector sy'n ffynnu a all barhau i adeiladu, ymhlith pethau eraill, adeiladau cyhoeddus cynaliadwy yng Nghymru?”
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r cynnydd enfawr i gostau y mae'r diwydiant adeiladu wedi ei wynebu, yn enwedig yr effaith enfawr y mae chwyddiant wedi ei chael ar rai o'r deunyddiau crai. Mae hynny wedi effeithio ar bob agwedd ac, yn benodol, ar ein gallu yn y Llywodraeth i wneud y math o ddatblygiadau a chynnydd yr ydym ni'n gobeithio eu gweld o ran buddsoddiad cyfalaf, ac, wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod y diwydiant adeiladu wedi cael ei herio hefyd.
“O ran y BBaChau, rydych chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw gystadlu, a dyna pam mae enghreifftiau ym maes caffael lle rydym ni wedi rhannu'r prosiectau caffael mawr yn brosiectau llai i alluogi rhai o'r cyflenwyr lleol a'r BBaChau hynny i allu tendro am y gwaith hwnnw.”