Gyda rhai ardaloedd yng Ngogledd Cymru yn dal i gael trafferth i gael darpariaeth symudol, mae AS Gogledd Cymru Mark Isherwood wedi holi Gweinidog yr Economi ynghylch camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn.
Yn y cyfarfod ddoe o Senedd Cymru, gofynnwyd i’r Gweinidog sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru.
Yn ystod y cwestiwn, cyfeiriodd Mr Isherwood at gyfarfod a gafodd y llynedd gyda Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL), sydd â’r nod o ymestyn y ddarpariaeth yng Ngogledd Cymru i 98 y cant o ddarpariaeth 4G gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol, a gofynnodd i’r Gweinidog beth ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r cwmni.
Dwedodd ef:
“Haf diwethaf, ymunais ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer ymweliad â phrosiect Dalgylch Conwy Uchaf a chyfarfod gyda Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, i drafod diffyg darpariaeth symudol yng Nghwm Penmachno. Mewn cyfarfod dilynol gyda Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL) a Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, buom yn trafod y Rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir.
“Mae DMSL, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn fenter ar y cyd rhwng y pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol yn y DU, neu MNOs, i weithio dros fywyd digidol heb unrhyw aflonyddwch i bobl ledled y DU. Nod y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, gyda £532 miliwn gan MNOs a £500 miliwn gan Lywodraeth y DU, yw ymestyn y ddarpariaeth yng Ngogledd Cymru i 83 y cant o Gwmpas 4G gan bob MNO, a 98 y cant gan o leiaf un MNO, ac, ar draws Cymru, i 80 y cant o bob MNO, a 95 y cant gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol.
“Fel y clywsom, ‘ni allwch gael cysylltedd heb y seilwaith’. Pa ymgysylltiad ydych chi'n ei gael gyda DMSL yn unol â hynny?"
Yn ei ymateb, dywedodd y Gweinidog, Vaughan Gething AS, y byddai’n gwirio eto gyda’i swyddogion ynghylch “eu hymgysylltiad penodol â’r sefydliadau yr ydych yn cyfeirio atynt”.