Mae’r AS dros y Gogledd, Mark Isherwood, wedi mynegi pryderon wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth bod plant ysgol yn y Gogledd yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus gan ddehongliad llym awdurdodau lleol o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) Llywodraeth Cymru, sy'n cyfyngu ar gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'u hysgol addas agosaf.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood fod y mesur y mae awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio yn aml yn fympwyol, a gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn annibynadwy, mae hyn yn arwain at blant ysgol yn cael eu gadael mewn safleoedd bws.
Gan alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates AS, i fynd i'r afael â'r broblem, dywedodd:
“Rwy'n aml yn clywed gan rieni y mae eu plant yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus gan y ffordd lem y mae awdurdodau lleol yn dehongli Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru, sy'n cyfyngu ar gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'u hysgol addas agosaf. Mae'r dull o fesur a ddefnyddiant yn aml yn fympwyol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus amgen yn aml yn annibynadwy, sy'n golygu bod plant yn cael eu gadael mewn safleoedd bws, ac fel arfer nid oes llwybrau cerdded diogel ymarferol ar gael.”
“Mae'r enghraifft ddiweddaraf o hyn, yr ysgrifennais atoch yn ei chylch, yn ymwneud â disgyblion o Sychdyn yn sir y Fflint sy'n mynychu Ysgol Alun yn yr Wyddgrug. Mae hyn er bod Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn datgan, lle nad oes gan ddysgwyr hawl i gludiant am ddim, fod gan awdurdodau lleol bŵer i ddarparu cludiant yn ôl disgresiwn, a diffinio bod llwybr ond yn llwybr sydd ar gael os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded ar y llwybr ar ei ben ei hun, neu gyda hebryngwr os byddai oedran y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.”
“Yn ogystal â'r camau a gynigiwyd gennych felly, ac rwy'n eu croesawu, sut y byddwch chi'n monitro ac yn gwerthuso gweithrediad i sicrhau, yn y bôn, fod awdurdodau lleol yn deall, ac yn gwneud yr hyn a allant i gynorthwyo cymunedau fel hyn?”
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rydym yn cydnabod yr her y mae llawer o ddysgwyr yn ei hwynebu ledled Cymru ar hyn o bryd. Fel y dywedais, mae yna broblemau strwythurol sydd angen eu goresgyn er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hynny ym mhobman. Ond rwyf am gyfeirio at y Bil bysiau sydd ar y ffordd fel rhan o'r ateb. Bydd gallu rheoli rhwydweithiau, gallu rheoli llwybrau ac amserlenni, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr. Ni fydd yn datrys pob problem, ond fe fydd yn rhan o'r pecyn o atebion yr ydym am ei hyrwyddo.”
Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Yn ei ymateb, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at y Bil Bysiau sydd ar ddod, ond, yn y cyfamser, mae plant mewn perygl. Mae oriau golau dydd yn byrhau ac yn syml nid yw'n ddiogel i blant gael eu gadael mewn safleoedd bws. Mae angen rhoi sylw brys i hyn."