Heddiw, mae’r AS dros y Gogledd a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion yn ymwneud â Phobl Fyddar, Mark Isherwood, wedi galw am Ddatganiad Llafar gan Lywodraeth Cymru ar roi’r gorau i gynlluniau i gyflwyno TGAU Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes y prynhawn yma, amlinellodd Mr Isherwood y siom eang ynghylch y penderfyniad a dywedodd fod yn rhaid i Aelodau o'r Senedd "gael holi Llywodraeth Cymru am hyn".
Meddai:
“Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion yn ymwneud â phobl fyddar, rwy'n galw am drefnu datganiad llafar gan Lywodraeth Cymru yma ar y cynlluniau sydd wedi'u dileu i gyflwyno Iaith Arwyddion Prydain, BSL, TGAU yng Nghymru.”
“Rwy'n gwybod y cawsoch chi gwestiwn am hyn yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, ac yn eich ymateb fe wnaethoch chi ddweud mai penderfyniad gan Cymwysterau Cymru oedd hwn. Ond roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cael y clod ar sawl achlysur, am y TGAU BSL a oedd wedi'i addo ac maen nhw'n uniongyrchol gyfrifol am yr heriau ymarferol y gwnaeth Cymwysterau Cymru eu nodi, gan gynnwys cyflenwad addysgu digonol yng Nghymru.”
“Mae cynigion eraill gan Cymwysterau Cymru yn cael eu hystyried yn dda i ddim, gan achosi tramgwydd mawr. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fynd yn ôl ar ei gair. Fe wnaethon nhw a'r elusen Signature ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg ac atoch chi i fynegi eu digalondid, eu hanobaith a'u siom am y newyddion dinistriol, a dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yng Nghymru, ‘Dyma ergyd sarhaus i blant byddar a'u ffrindiau a'u cyd-ddisgyblion ledled Cymru. Mae angen Deddf BSL arnon ni yng Nghymru ar frys'.
“Rhaid caniatáu i Aelodau gwestiynu Llywodraeth Cymru am hyn, ac rwy'n galw am drefnu datganiad llafar mewn sesiwn lawn yn y dyfodol yn unol â hynny.”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes), Jane Hutt AS, unwaith eto fod y penderfyniad i atal datblygiad TGAU Iaith Arwyddion Prydain “yn benderfyniad sydd wedi'i wneud gan Cymwysterau Cymru yn eu rôl fel ein rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol.”
Meddai:
“Gwnaethon nhw gyhoeddi eu penderfyniad i atal datblygu TGAU BSL wedi'i greu i Gymru, ond nododd ei fwriad i ddatblygu unedau BSL fel rhan o'r gyfres cymwysterau sgiliau newydd, ac mae hynny'n mynd i fod ar gael ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion o fis Medi 2027. Ac mae hefyd yn bosibl i Cymwysterau Cymru sicrhau bod modd trefnu bod y TGAU BSL sy'n cael ei ddatblygu yn Lloegr ar hyn o bryd ar gael i ysgolion a dysgwyr Cymru. Mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu hyn ac yn cyfleu beth mae hyn yn ei olygu a sut y bydd hyn yn cael ei ddatblygu.”