Mae’r AS dros y Gogledd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio, Mark Isherwood, wedi siarad o blaid cyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwareli yn agos at aneddiadau, ond mae wedi rhybuddio bod gosod parth clustogi gorfodol o 1,000m i'r holl chwareli presennol yn fympwyol - a heb asesiadau effaith - "yn creu risg o effeithio'n negyddol ar swyddi, economïau lleol, a chyflenwad cynaliadwy o ddeunyddiau allweddol.”
Yn y ddadl ddoe ar "Gynnig Deddfwriaethol Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli', cefnogodd Mr Isherwood egwyddorion cyffredinol y Bil, ond bu’n rhaid iddo ymatal ‘gwaetha’r modd’ mewn pleidlais ar y cynnig yn sgil y ffordd yr oedd wedi cael ei ddrafftio.
Galwodd Mr Isherwood ar Lywodraeth Cymru i "ganolbwyntio camau ar 'gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygu chwareli yn agos at aneddiadau', fel y cynigiwyd ym Mesur Cynllunio (Chwareli) y DU a ystyriwyd yn 2023 ac yn rhan gyntaf y cynnig rydym yn ei drafod heddiw".
Meddai:
“Mae llawer i'w gymeradwyo yn y cynnig hwn. Fel y nodwyd gan y cynigydd, mae'n cael ei gymryd, i raddau helaeth, o Fil Cynllunio (Chwareli) gan Aelod preifat yn San Steffan a gynigiwyd gan yr AS Ceidwadol Paul Holmes, ac a gafodd ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mawrth y llynedd. Bil ydyw, 'i gyflwyno rhagdybiaeth mewn penderfyniadau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwareli yn agos at aneddiadau; i'w gwneud yn ofynnol i risgiau safleoedd chwarela arfaethedig i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd gael eu hasesu yn rhan o'r broses gynllunio; i ddarparu mai dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol a all wneud y penderfyniad ar gais cynllunio ar gyfer datblygu chwarel; ac at ddibenion cysylltiedig.”
“Felly, mae yna debygrwydd mawr. Ond yng nghyd-destun datganoli, wrth gwrs, mae Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn cymryd lle'r Ysgrifennydd Gwladol, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, yn fy marn i, ni ddylem bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.”
“Fodd bynnag, ceir pryder fod y cynnig sydd ger ein bron heddiw hefyd yn argymell y dylai'r Senedd osod parth clustogi gorfodol o 1,000m ar gyfer pob chwarel newydd a rhai presennol. Mae cymhwyso hyn i'r holl chwareli presennol yn fympwyol-a heb asesiadau effaith-yn creu risg o effeithio'n negyddol ar swyddi, economïau lleol, a chyflenwad cynaliadwy o ddeunyddiau allweddol. Ymhellach, gallai gosod parth clustogi gorfodol o 1,000m yn fympwyol ar gyfer pob chwarel newydd beth bynnag y bo'r amgylchiadau lleol a'r galw am y deunyddiau a heb asesiadau effaith olygu, er enghraifft, na ellid cael mynediad at ddeunyddiau sy'n allweddol i drawsnewid i ynni adnewyddadwy a diogeled ynni a fyddai wedi'u lleoli 990m i ffwrdd o anheddiad.”
“Felly, mae'n ddoeth canolbwyntio yn lle hynny ar gyflwyno rhagdybiaeth mewn prosesau cynllunio yn erbyn cymeradwyo datblygiad chwareli yn agos at aneddiadau, fel y cynigiwyd ym Mil Cynllunio (Chwareli) y DU a ystyriwyd yn 2023 ac yn rhan gyntaf y cynnig a drafodwn heddiw. Felly, byddai'n rhaid i mi ymatal mewn pleidlais ar y cynnig fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gwaetha'r modd, er fy mod yn cefnogi'r egwyddor gyffredinol.”