Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid yn y Senedd, Mark Isherwood AS, wedi pwysleisio'r angen am ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i roi gwybod i bobl am y newidiadau a fydd yn deillio o'r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).
Wrth ymateb i'r Datganiad ddoe ar y Bil gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, dyfynnodd Mr Isherwood hefyd Gymdeithas y Cyfreithwyr sydd wedi dweud, er mwyn cyflawni nodau'r Bil, bod yn rhaid rhoi adnoddau "i gefnogi'r sector cyfreithiol yng Nghymru ac yn drawsffiniol i ddeall y newidiadau a sut y gallai'r rhain effeithio ar eu ffordd o weithio".
Meddai:
"Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi datgan bod pwrpas y Bil, sef dod â'r trefniadau gweithdrefnol at ei gilydd a'u ffurfioli ar gyfer llunio is-ddeddfwriaeth Gymreig a'r gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig ac is-ddeddfwriaeth arall nas llunnir drwy gyfrwng offeryn statudol, nid yn unig am fod o gymorth i'w haelodau hi sy'n gweithio yng Nghymru, ond ei haelodau hefyd sy'n gweithio dros y ffin ar faterion Cymreig. Ac fe roddwyd enghraifft ganddyn nhw o gwmni yn Llundain sy'n gweithio i gleient o Gymru sy'n prynu eiddo yng Nghymru.
“Ond yn fwy eang, er hynny, sut bydd hyn yn gweithredu lle ceir croestoriad â chyfraith y DU sy'n gymwys yng Nghymru a thrigolion Cymru sy'n gweithredu o dan y system gyfreithiol yn Lloegr?”
Ychwanegodd:
“Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi dweud hefyd y bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn fuddiol iawn o ran cynyddu ymwybyddiaeth o'r gyfraith ymhlith y cyhoedd. Roedden nhw'n dweud wedyn, er hynny, mai dim ond os bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd y gall hyn fod yn llwyddiannus, gan fod angen rhoi gwybodaeth i bobl ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.
“Mae posibilrwydd yma iddi fod yn ymgyrch dda ar gyfer addysgu am reolaeth y gyfraith, ond ni fydd hynny'n digwydd os na chaiff ei dilyn gan y cyhoeddusrwydd haeddiannol. Felly, pa gynlluniau, os o gwbl, a gafodd eu gwneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn yn sgil y Bil? Mewn geiriau eraill, sut y bydd hygyrchedd cyfraith Cymru yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwerau datganoledig a deddfwriaeth ddatganoledig, er mwyn iddyn nhw allu cael yr wybodaeth gywir o'r man cywir yn yr amser cywir?
“Mae amcanion teilwng iawn yn y Bil ei hun. Er hynny, mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn dweud na chaiff y rhain eu cyflawni os na roddir adnoddau i gefnogi'r sector cyfreithiol, yng Nghymru ac ar draws y ffin, ar gyfer deall y newidiadau ac effaith bosibl y rhain ar ei ffyrdd o weithio.
“Felly, pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o effaith ariannol y ddeddfwriaeth arfaethedig hon? Beth a gaiff ei roi i gefnogi'r sector cyfreithiol i ddeall a gweithredu'r newidiadau hyn, os bydd unrhyw beth yn cael ei roi o gwbl? A sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cefnogi a gweithio gyda'r sectorau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr drwy holl hynt y Bil?”
Ychwanegodd:
“Oni bai bod yr Aelodau o’r Senedd yn eistedd ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ni fyddan nhw'n gwybod o reidrwydd fod Llywodraeth Cymru yn llunio is-ddeddfwriaeth pan gaiff honno ei llunio drwy'r weithdrefn negyddol, yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol, o ran y Cyfarfod Llawn.
“Yn olaf, felly, pa ystyriaeth a fyddwch chi'n ei rhoi i ffyrdd gwell o ddwyn is-ddeddfwriaeth gweithdrefn negyddol at sylw Aelodau o’r Senedd, gan gofio ein bod ni'n cael ein hystyried yn rhai sy'n cydsynio i honno?