Mae’r AS dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar, Mark Isherwood AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod anghenion iechyd meddwl pobl fyddar a'u cynnwys yn Strategaeth Iechyd Meddwl newydd Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad yn y Datganiad Busnes ddoe, dywedodd Mr Isherwood fod pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problem iechyd meddwl na phoblogaethau sy’n clywed a mynegodd bryder mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i bobl fyddar.
Gan alw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn Siambr y Senedd ar gynnwys pobl fyddar yn Strategaeth Iechyd Meddwl 10 mlynedd Cymru, dywedodd:
“Ddoe, ysgrifennodd Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru Gyfan - grŵp o weithwyr proffesiynol ac elusennau byddar ac sy'n clywed - at y Gweinidog, gan ddweud eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru wir yn rhan o'r strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru’.
“Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i bobl fyddar, ac eto, mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu problem iechyd meddwl na phoblogaethau sy'n clywed.”
“Fe wnaethon nhw gyfarfod fel grŵp gyda chi a Gweinidogion eraill ym mis Hydref 2022, ac maen nhw wedi cael gwybod sawl tro i aros am y strategaeth iechyd meddwl newydd. Ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n nerfus y gallai pobl fyddar gael eu gadael ar ôl, sydd wedi digwydd gymaint o weithiau o'r blaen’.
“Yn olaf, yn ystod cyfnod ymgynghori'r strategaeth iechyd meddwl drafft, ni chafodd pobl fyddar yng Nghymru eu nodi'n grŵp sydd wedi'i ymyleiddio, ac yn ystod datganiad y Gweinidog ar iechyd meddwl a llesiant yma yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref, nid oedd sôn am iechyd meddwl pobl fyddar’.
“Felly, maen nhw'n annog y Gweinidog i wirio'r strategaeth iechyd meddwl yn unol â hynny. Ac mae hyn, unwaith eto, yn fater mor ddifrifol, mae'n haeddu datganiad gan y Gweinidog i'r Senedd lawn yn unol â hynny. Byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi geisio hwyluso'r ddau ddatganiad llafar hynny i'r Senedd lawn yn unol â hynny.”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Rheolwr Busnes), Jane Hutt AS:
“Rwy'n credu y gallaf i eich sicrhau chi, ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant hefyd eisiau ymateb yn gadarnhaol i'r alwad am gynnwys pobl fyddar yn y strategaeth iechyd meddwl newydd. Mae'n gyfle, wrth i ni weithio, i raddau helaeth, yn yr un modd ag y gwnaethon ni yn y tasglu hawliau anabledd, er mwyn cyd-gynhyrchu, ac rwy'n siŵr mai dyna fydd y ffordd ymlaen o ran y strategaeth iechyd meddwl newydd.”