Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad tai rhent a'u hannog i beidio â chyflwyno rheolaethau rhent gwrthgynhyrchiol.
Wrth siarad yn y ‘Ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar yr hawl i dai digonol' y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood fod yr hawl i dai digonol wedi bod yn bolisi’r Ceidwadwyr Cymreig ers tro.
Pwysleisiodd y dylai llywodraethau fod yn gweithio gyda landlordiaid da yn hytrach na'u gwthio allan o'r farchnad, gan dynnu sylw at broblemau yn yr Alban yn dilyn cyflwyno rheolaethau rhent yno.
Meddai:
“Ers 2019, mae cynghrair Cefnogi’r Mesur wedi ymgyrchu dros ymgorffori’r hawl i dai digonol yng Nghymru. Fel y clywsom, mae'r gynghrair, sy'n cynnwys Shelter Cymru, Tai Pawb a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn credu mai’r unig ffordd o ddatrys argyfwng tai Cymru yw newid y ffordd y meddyliwn am gartrefi yn gyfan gwbl, gan ddechrau gyda’u hystyried yn hawl. Maent yn cydnabod yr angen i gynyddu pwysigrwydd cartrefi ar yr agenda wleidyddol, a chreu strategaeth hirdymor bwerus. Comisiynwyd Alma Economics ganddynt i gynnal ymchwil annibynnol, a ganfu y bydd cyflwyno'r hawl i dai digonol yn arbed arian cyhoeddus yng Nghymru.”
Ychwanegodd
“Fel y dywed Alma Economics: 'Ceir sylfaen dystiolaeth gref iawn y tu ôl i'r cyswllt rhwng cynnydd mewn lles a chynnydd mewn digonolrwydd tai.... Mae arbedion cost i awdurdodau lleol yn sgil rhoi diwedd ar ddigartrefedd, a llai o anghenion o ran gofal cymdeithasol. Ceir arbedion i GIG Cymru. Ceir arbedion i’r system cyfiawnder troseddol. Ceir gweithgarwch economaidd ychwanegol...gyda gwell canlyniadau i'r farchnad lafur...cynhyrchiant uwch. A hefyd gwerth y tai newydd sy'n cael eu creu.'
“Felly rydym yn cefnogi cynigion ar gyfer yr hawl i dai digonol, yn ogystal ag ar gyfer asesiadau rheolaidd o anghenion tai a chyflwr tai, gyda thargedau wedi’u gosod i leihau anghenion tai nas diwallwyd a gwella cyflwr tai. Mae’r cynnig hefyd yn sôn am arferion rhentu teg, ac ar hyn o bryd, gall landlordiaid a thenantiaid wneud cais am rent teg ar denantiaeth reoleiddiedig neu sicr. Fodd bynnag, os yw’r cynnig hwn yn cyfeirio yn hytrach at reoli rhenti, ceir corff sylweddol o dystiolaeth annibynnol sy’n dangos nad yw rheoli rhenti yn gweithio i sicrhau'r canlyniad a ddymunir, ac yn hytrach, eu bod yn creu rhwystrau i symudedd, yn lleihau’r cyflenwad o gartrefi ac yn arwain at renti uwch nag a allai fod wedi bod fel arall.
“Ar ôl cyflwyno mesurau rheoli rhenti yn yr Alban yn 2022, cynyddodd rhenti cyfartalog ar denantiaethau newydd, gan godi bron i 14 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, wrth i renti ar denantiaethau presennol gael eu rhewi ac yna eu capio, a bu gostyngiad hefyd o bron i 20 y cant o ran argaeledd eiddo yn y sector rhentu preifat yn yr Alban dros yr un cyfnod.
“Yn hytrach na mynd i'r afael â’r symptomau, mae angen i Lywodraeth Cymru felly gymryd camau i gynyddu’r cyflenwad tai rhent, gan mai prinder tai yw’r prif reswm pam mae prisiau rhent wedi cynyddu, a gweithio gyda landlordiaid da yn hytrach na’u gyrru allan o’r farchnad. Heb sicrwydd, byddaf yn ymatal ar y cynnig hwn felly, er fy mod yn cefnogi’r hawl i dai digonol.
Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae hwn yn argyfwng tai 'wedi’i wneud yng Nghymru'. Gwnaeth nifer y cartrefi newydd yng Nghymru a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol leihau’n aruthrol ar ôl i Lywodraeth Geidwadol y DU ddod i ben ym 1997, o gyfartaledd blynyddol o 2,600 a mwy i 785 rhwng 1997 a 2010, a 1,047 ers hynny. Er bod angen i ni felly roi hwb i nifer y tai rhent i ateb y galw yng Nghymru yn y tymor byr i'r tymor canolig, canfu ymchwil hefyd fod landlordiaid yng Nghymru yn gadael y farchnad neu'n lleihau nifer yr eiddo maen nhw'n eu rhoi ar osod, gan gyfyngu ar y cyflenwad ymhellach".