Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi rhannu pryderon gyda'r Prif Weinidog bod gwasanaethau bysiau yn Sir y Fflint mewn perygl o gael eu cwtogi oherwydd gostyngiad yng nghyllid Llywodraeth Cymru a chostau cynyddol.
Wrth godi'r mater yn Siambr y Senedd, gofynnodd Mr Isherwood pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yn y Sir.
Meddai:
“Mae hi'n galonogol bod Adran Drafnidiaeth y DU wedi ariannu gorsaf y Fflint yn rhan o raglen Mynediad i Bawb y Llywodraeth Geidwadol flaenorol i'w gwneud yn hygyrch i'r holl deithwyr, yn enwedig y rhai sydd â chyfyngiadau ar eu symudedd. O ran gwasanaethau bysiau, er hynny, cafodd pryderon eu mynegi mor ddiweddar â mis Hydref am doriadau i sawl gwasanaeth bws yn sir y Fflint oherwydd lleihad yn y cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru a chostau cynyddol.
“Beth, felly, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd ynglŷn â'r cyhoeddiad ym mis Mawrth, yn dilyn cyhoeddiad map ffyrdd Llywodraeth Cymru o ran gwelliant bysiau, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â Chyngor Sir y Fflint drwy gydol 2024 i gyflawni gwelliannau o ran y gwasanaethau bysiau yn rhanbarth Delyn ac ar draws y sir cyn gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd?
“Sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r diwydiant bysiau yn ystod y cyfnod pontio i lunio pont tua masnachfreinio ar gyfer llwybrau contract yr ystyrir eu bod nhw'n angenrheidiol yn gymdeithasol i bobl yn sir y Fflint?”
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog "Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod nad yw'r sefyllfa yn foddhaol ar hyn o bryd o ran gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y patrwm sydd gennym ni ".
Ychwanegodd:
“Rydych chi'n hollol iawn o ran yr angen i ni sicrhau y bydd un meddylfryd wrth geisio deall sut mae'r holl feysydd amrywiol hyn yn cysylltu â'i gilydd, a'n bod ni'n gwrando ar y cyhoedd o ran yr hyn maen nhw'n dymuno ei weld. Fe fydd y berthynas honno gyda'r cyngor yn allweddol wrth sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu anghenion y cyhoedd, ac nad ydym ni'n gweld dim ond y llwybrau bysiau sy'n gwneud yr elw mwyaf yn cael eu dethol.”