Mae Cadeirydd Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol y Senedd, AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi sôn am ei siom bod rhai pobl Awtistig a/neu bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel yng Nghymru a Lloegr.
Wrth siarad yn Nadl yr Aelodau – 'Lleoliadau Gofal ar gyfer Awtistiaeth ac Anabledd Dysgu', a gyflwynodd ar y cyd, cyfeiriodd Mr Isherwood at brotest "Cartrefi nid Ysbytai" Bywydau wedi’u Dwyn y tu allan i'r Senedd yn gynharach eleni, a gefnogwyd gan Anabledd Dysgu Cymru a 13 o sefydliadau eraill gan gynnwys Mencap Cymru, i godi ymwybyddiaeth o ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Wrth siarad ar y mater yn y Senedd cyn y brotest, pwysleisiodd Mr Isherwood fod “strategaeth anableddau dysgu wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2018 sy’n ceisio sicrhau bod pobl awtistig neu bobl ag anableddau dysgu sydd mewn lleoliadau hirdymor yn cael eu rhyddhau ac yn gallu byw eu bywydau yn y gymuned. Fodd bynnag, mae Anabledd Dysgu Cymru yn datgan ei bod yn hysbys fod oddeutu 150 o bobl awtistig neu bobl ag anableddau dysgu mewn lleoliad ysbyty, dros ddwy ran o dair ers dros 10 mlynedd, er nad yw’r niferoedd yn cynnwys pawb a phob lleoliad. Mae angen inni wybod felly, dywedant, pam fod nifer mor uchel yn dal i fod mewn lleoliadau ysbyty hirdymor.”
Dywedodd bryd hynny "mae angen i ni wybod felly pam fod nifer mor uchel yn dal i fod mewn lleoliadau ysbyty hirdymor".
Wrth siarad ddoe, dywedodd:
"Fel y dywedodd Anabledd Dysgu Cymru, dros 40 mlynedd yn ôl, Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i lansio strategaeth i gael pobl ag anabledd dysgu allan o ysbytai arhosiad hir ac yn ôl i'r gymuned. Ac eto, ymddengys ein bod yn mynd tuag at yn ôl ac yn llithro tuag at ail-sefydliadu'.
"Ar ôl i'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar ysgrifennu at ymgyrchwyr Bywydau wedi’u Dwyn ym mis Awst, fe wnaethant fynegi pryder nad oedd y llythyr roeddent wedi'i anfon at y Gweinidog blaenorol ym mis Mai, a oedd yn fanwl ac yn gofyn cwestiynau pwysig, wedi cael ateb o hyd, ac nad oeddent wedi cael cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog newydd i ddadlau eu hachos.
"Roedd llythyr y Gweinidog hefyd yn nodi bod gan bawb gynllun gofal a chymorth ar waith, sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod gofal parhaus yn briodol.
"Fodd bynnag, rwy'n brwydro'n rheolaidd gydag Awdurdodau Lleol ar ran etholwyr, lle mae eu Hadolygiadau o Gynlluniau Gofal a Chymorth wedi'u drafftio’n groes i'r amserlen a nodir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gofyniad y Ddeddf i'r unigolyn a/neu eu gofalwr, aelod o'r teulu neu eiriolwr, fod yn gyfranogwr gweithredol yn yr adolygiad.
"Heb waith monitro a gwerthuso cadarn gan Lywodraeth Cymru, mae ei deddfwriaeth, i bob pwrpas, yn ddiwerth."
Aeth Mr Isherwood ymlaen i gyfeirio at achosion lle mae pobl ifanc awtistig wedi cael eu rhoi yn yr ysbyty.
Meddai:
"Fel y dywedodd rhiant bachgen awtistig ag anableddau dysgu difrifol wrthym, cawsant alwad ffôn gan uwch aelod o staff y Bwrdd Iechyd yn dweud wrthynt mai eu hunig opsiwn bellach oedd rhoi eu mab yn yr ysbyty'.
"Dywedodd un arall 'cafodd fy mhlentyn ei ddwyn a'i roi mewn gofal cymorth brys am na ellid dod o hyd i ofalwyr'.
"Dywedodd un arall 'dywedodd cyfarfod Budd Pennaf nad oedd bod yn yr Uned Asesu a Thriniaeth o’r budd pennaf i fy mab, ond gan nad oedd unrhyw beth arall ar gael, y byddai'n rhaid iddo aros yno'."
Ychwanegodd:
"Nid cyflwr iechyd meddwl yw awtistiaeth; mae’n gyflwr datblygiadol gydol oes sy'n siapio sut y mae pobl yn gweld y byd a sut y maent yn cysylltu ag eraill.
"Mae llawer o bobl awtistig yn cael chwalfa. Nid yw hynny yr un peth â strancio. Nid ymddygiad drwg mohono. Pan fydd unigolyn wedi’u gorlethu'n llwyr a’u cyflwr yn golygu ei bod hi’n anodd mynegi hynny mewn ffordd arall, mae'n ddealladwy mai’r canlyniad yw chwalfa.
"Ni ddylai’r bobl hyn gael eu cadw dan glo. Mae angen newid sylfaenol i unioni'r camweddau hawliau dynol hyn."