Arweinydd newydd Plaid Cymru—llongyfarchiadau; yr un hen ddadleuon yn cael eu hailgylchu eto fyth a'r un siarad rhodresgar gan Alun Davies. Felly, fe wnaf innau ailgylchu fy nadleuon i ddangos bod yr alwad hon yn herio realiti. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig wlad ddatganoledig o hyd heb ei system gyfreithiol a'i phwerau ei hun dros ei lluoedd heddlu, gan adlewyrchu'r sail resymegol dros hyn. Y ffordd orau o gydlynu materion plismona arbenigol fel gwrthderfysgaeth yw ar lefel y DU. Ymhellach, mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fater datganoledig, ond am resymau'n ymwneud â daearyddiaeth a phoblogaeth, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol ym 1972, yr hen Senedd Stormont oedd â chyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, a chadwodd Llywodraethau olynol y DU ymrwymiad i ail-ddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd amgylchiadau'n iawn i wneud hynny. Ymhellach, caiff Prydain a Gogledd Iwerddon eu gwahanu gan ddarn mawr o fôr. Mewn cyferbyniad, mae 48 y cant o bobl yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 90 y cant ohonynt o fewn 50 milltir. Mewn cyferbyniad pellach, dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol.
Mae gan y maer ym Manceinion, fel mewn mannau eraill, yr un pwerau â chomisiynydd yr heddlu a throseddu. A ydych chi'n galw am ganoli hynny yn Llywodraeth Cymru ac i'n comisiynwyr heddlu a throseddu rhanbarthol gael eu diddymu? Oherwydd dyna sut mae'n swnio. Er gwaethaf hyn, un cyfeiriad yn unig y mae adroddiad Thomas yn ei wneud at fater allweddol troseddolrwydd trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws pedwar llu Cymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at gydweithio sefydledig â phartneriaid cyfagos ar draws y ffin trosedd a chyfiawnder anweledig â Lloegr. Ac er fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro i Weinidogion Llywodraeth Cymru a fyddant yn comisiynu gwaith i unioni'r diffyg hwn, maent bob amser wedi osgoi a dargyfeirio yn enw tystiolaeth a arweinir gan bolisi.
Fel y dysgais pan ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin, cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phum llu yng ngogledd-orllewin Lloegr, mae holl gynlluniau brys gogledd Cymru yn cael eu gwneud gyda gogledd-orllewin Lloegr. Mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin. Nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithgarwch sylweddol yn gweithio ar sail Cymru gyfan ac anwybyddwyd y dystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn.
Wrth sôn am ei hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' y llynedd, disgrifiodd Llywodraeth Cymru bolisi cyfiawnder penodol i Gymru
'yn seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu',
a chyferbynnu hyn â dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar gosbi, meddai, gan Lywodraeth y DU. Drwy wneud hynny, yn gyfleus iawn, fe anwybyddodd yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb, pan fo Llywodraeth y DU wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi sy'n seiliedig ar atal trwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu. Anwybyddodd 'Bapur Gwyn Strategaeth Carchardai' Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddu, ei strategaeth ddioddefwyr i gysoni cefnogaeth i ddioddefwyr â natur newidiol troseddau, a'i gynllun datrys problemau gwerth £300 miliwn dros dair blynedd i gynorthwyo pob cyngor ledled Cymru a Lloegr i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynharach nag erioed, a helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag bwrw ymlaen i droseddu pellach, mwy difrifol.
Ar ben hynny, Llywodraeth y DU a gyhoeddodd strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus i ffwrdd o ddedfrydau byr o garchar lle bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a threialu pum canolfan breswyl i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Fodd bynnag, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma a ysgrifennodd wedyn at yr Aelodau, gan ddweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac yn datgan ei bod wedi cyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn ne Cymru. Wrth gwrs, fe wrthododd pwyllgor cynllunio Abertawe hyn wedyn.
Mae pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu gan feiri etholedig Llundain, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, a dylent aros gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a pheidio â chael eu canoli yn Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod datganoli wedi newid cyd-destun deddfwriaethol a pholisi plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac mae eisoes wedi sefydlu math o ddatganoli gweinyddol drwy swyddfeydd, unedau neu gyfarwyddiaethau Cymreig yn seiliedig ar gydweithrediad, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF Cymru. Nid oes a wnelo datganoli neu beidio â datganoli â pholisïau a phersonoliaethau dros dro gwahanol lywodraethau ar bwynt penodol mewn amser. Mae polisïau pleidiau a pholisïau, personoliaethau a phleidiau llywodraeth mewn unrhyw ardal ddaearyddol yn newid dros amser.
Fe ddof i ben. Ac ni ddylid caniatáu i ddymuniad Plaid Cymru i rannu ac ansefydlogi, nac awydd aflwyddiannus a rheolaethol Llywodraeth Lafur Cymru i fachu mwy fyth o bŵer, dynnu ein sylw oddi wrth wir anghenion Prydeinwyr ar ddwy ochr y ffin rhwng dwyrain a gorllewin, yng Nghymru a Lloegr.