Mae Cymru, fel cenedl noddfa, yn bodoli i gyfeillion o dramor ar ôl iddyn nhw gyrraedd yma a chael mynediad at wasanaethau datganoledig, er, wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny eisoes dan bwysau aruthrol, gydag argyfwng cyflenwad tai ac amseroedd aros gwaethaf y GIG ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae mewnfudo yn fater nad yw wedi'i ddatganoli ac a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod pryderon am yr effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar blant ar eu pen eu hunain a dioddefwyr masnachu pobl, am yr angen am lwybrau diogel a chyfreithiol i'r DU ac am yr angen i ddarparu noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod y pryderon hyn yn cael eu codi gan Aelodau o bob plaid yn nau Dŷ'r Senedd yn y DU, lle mae'r cyfrifoldeb am ddiwygio'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod dros 45,700 o bobl wedi cyrraedd ar gychod bach yn 2022, cynnydd o 60 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol; bod pobl wedi colli eu bywydau yn ceisio croesi lôn longau brysuraf y DU mewn cychod llipa; bod y rhai sy'n croesi yn teithio o wledydd diogel; y camfanteisir ar y bobl sy'n gwneud y teithiau hyn gan smyglwyr pobl sy'n codi miloedd o bunnau arnyn nhw cyn defnyddio'r arian hwn i ariannu troseddau difrifol eraill; ac na allwn ni barhau i ychwanegu pwysau annerbyniol ar ein gwasanaethau iechyd, tai, addysg a lles.
Nid yw'r ddyletswydd i ddileu, yng nghymal 2(1) y Bil, yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud trefniadau symud ymaith ar gyfer plant ar eu pen eu hunain nes eu bod yn 18 oed. [Torri ar draws.]
Fel mater o bolisi, y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil.
Ond fel mater o bolisi, dim ond ar gyfer plant ar eu pen eu hunain y bydd y pŵer yng nghymal 3(2) y Bil yn cael ei arfer pan fo nhw o dan 18 oed o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn cyn iddyn nhw fod yn oedolion, megis at ddibenion aduniad teuluol, neu pan symudir nhw ymaith i wlad wreiddiol ddiogel. Os yw rhywun yn cael ei adnabod fel rhywun sydd o bosib yn dioddef caethwasiaeth fodern, bydd y Bil yn sicrhau ei fod yn cael ei dychwelyd adref neu i wlad ddiogel arall. Gellir gohirio symud ymaith o'r DU pan fydd rhywun yn cydweithredu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith mewn ymchwiliad i amgylchiadau masnachu neu gaethwasiaeth fodern.
Rhwng 2015 a Rhagfyr 2022, cynigiodd y DU le i 481,804 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn ceisio diogelwch trwy lwybrau mynediad diogel a chyfreithiol. Mae angen i ni nawr weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i gynyddu faint o lwybrau diogel a rheolaidd sydd ar gael i'r DU hon yr ydym ni'n ei rhannu. Wrth i fudo anghyfreithlon gael ei gyfyngu, bydd gan Lywodraeth y DU fwy o gapasiti i ddarparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n wynebu perygl rhyfel ac erledigaeth. Ac mae'r Bil yn darparu i Lywodraeth y DU ymrwymo i ailsefydlu ffoaduriaid agored i niwed o bob cwr o'r byd, bob blwyddyn. Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn yn unol â hynny.