Mae mwy nag 80 y cant o aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn byw mewn cartrefi aneffeithlon, sy'n nifer uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU, gan dynnu sylw at bryderon National Energy Action Cymru nad yw'r cynlluniau presennol yn ddigonol i ymdrin â graddau tlodi tanwydd yng Nghymru, a'u galwad am gefnogaeth warantedig i'r rhai sy'n dioddef waethaf yn gyntaf. Mae angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru ar frys, gan gynnwys cartrefi perchen-feddianwyr a'r sector rhentu preifat, i'w gwneud yn lleoedd llawer cynhesach, gwyrddach ac iachach i fyw ynddynt, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol.
Mewn llythyr yn ymateb i mi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Ebrill, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ei bod yn disgwyl caffael cynllun newydd yn cael ei arwain gan y galw i ddisodli Nyth erbyn diwedd y flwyddyn galendr, gan ychwanegu y bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl dyfarnu arian y cynllun newydd ar ddiwedd yr hydref a'i weithredu dros y gaeaf, gyda disgwyliad y bydd yn cael ei ddarparu o ddiwedd y gaeaf ymlaen. Mae'r grŵp trawsbleidiol yn credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys, gan sicrhau bod y cynllun newydd sy'n seiliedig ar y galw ar gyfer Nyth yn weithredol y gaeaf hwn gyda chymhwysedd a maint wedi'i gadarnhau.
Mae adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd yn gwneud sawl argymhelliad i'w croesawu ynghylch iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd, gan gynnwys argymhelliad i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori'r dull ffabrig yn gyntaf a gwaethaf yn gyntaf o ôl-osod gan dargedu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon; ei fod yn fwy o faint, gyda meini prawf cymhwysedd craffach, llai cyfyngol, ac yn wyrddach o ran ei ymyriadau; ei fod yn ceisio talu cost gwaith galluogi; yn dileu'r cap cais sengl i helpu i ddarparu ar gyfer mesurau lluosog ac yn llunio ffordd fwy deallus o gyfyngu ar gostau; a'i fod yn cael ei gefnogi gan fframwaith casglu data, monitro a gwerthuso cadarn gyda chyfundrefn sicrhau ansawdd addas i'r diben. Dyma'r ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn barhaol, gan leihau faint o ynni y mae angen i aelwydydd tlawd ei ddefnyddio i wresogi eu cartrefi yn y lle cyntaf a darparu gostyngiad parhaol mewn biliau ynni.
Yn y blynyddoedd i ddod, bydd angen cefnogi'r cynllun a'r rhaglen nesaf gan gyllid cynyddol digonol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau tlodi tanwydd 2035 a chyfrannu at ei hymdrechion i gyrraedd sero net. Ac os bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad polisi ar ei rhaglen Cartrefi Clyd heddiw, fel y clywsom gan Hefin David, mae'n hanfodol fod y cynllun yn weithredol cyn gynted â phosibl. Rhaid cadarnhau manylion pellach pwysig, yn cynnwys cymhwysedd a maint.
Cymerwyd camau digynsail gan Lywodraeth y DU i gefnogi pobl gyda chostau byw yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin a'i effeithiau enfawr ar brisiau bwyd a thanwydd byd-eang a'r pwysau ar yr economi a achoswyd gan y pandemig. Ymhlith pethau eraill, roedd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddyblu taliad y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf i £200 i aelwydydd cymwys i helpu gyda phrisiau tanwydd.
Wrth siarad yma fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni y llynedd, galwais am ymestyn meini prawf cymhwysedd y cynllun ac roeddwn yn ddiolchgar pan wnaeth y Gweinidog hynny wedyn. Fodd bynnag, wrth holi'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma ym mis Ionawr, ac eto fis diwethaf yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru nad oedd yn parhau â'r cynllun tanwydd gaeaf y tu hwnt i 2022-23, gofynnais iddi a fyddai hwn yn cael ei ddileu'n llwyr, yn cael ei ddisodli gan y taliad gwreiddiol o £100 neu'n cael ei ddisodli gan rywbeth arall. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ateb hyn nawr.
Wrth ei holi ymhellach yma fis diwethaf, nodais ei chadarnhad i fy swyddfa, er bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod hyd at £90 miliwn ar gael ar gyfer taliadau i aelwydydd incwm isel cymwys o dan gynllun cymorth tanwydd y gaeaf 2022-23, ac wedi amcangyfrif y bydd tua 427,000 o aelwydydd yn gymwys, roedd llai na £65 miliwn wedi'i wario erbyn 28 Chwefror eleni pan gaeodd y cyfnod ymgeisio, gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru yn dweud mai dim ond 316,000 o aelwydydd oedd wedi gwneud cais ac mai dim ond 341,468 oedd wedi derbyn taliad. Gofynnais i'r Gweinidog a fyddai'r tanwariant hwn yn cael ei gario ymlaen felly, ac os na, pam? Fodd bynnag, ni chafwyd cadarnhad y byddai'r tanwariant yn cael ei gario ymlaen i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn perthynas â tlodi tanwydd. Unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ateb y cwestiwn hwn nawr.
Mae angen dysgu gwersi hefyd ar sut mae sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau yn y dyfodol. Fel yr ategwyd gan Sefydliad Bevan ym mis Ebrill, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt.