Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at nifer y sefydliadau yn Lloegr sy'n destun mesurau arbennig ond nid yw'n nodi nad yw'r sefydliadau hyn wedi'u huwchgyfeirio am gyfnod hir, am fod GIG Lloegr yn dod â thîm arbenigol allanol i mewn i ddatrys yr anawsterau. Wrth siarad yn gyhoeddus ym mis Mawrth, dywedodd cyn-gadeirydd y bwrdd iechyd:
'Cafodd ystod o ddiffygion a phryderon hirsefydlog eu huwchgyfeirio'n ffurfiol ddechrau mis Medi, nid yn unig i'r prif swyddog gweithredol ar y pryd ond hefyd i'r Gweinidog a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Cafodd yr uwchgyfeiriadau hynny ynghyd â'r sail drostynt eu hanwybyddu gan y Llywodraeth'.
Wrth siarad yma ym mis Mawrth, dyfynnais o ddatganiad a gefais ar ran cyn-aelodau annibynnol y bwrdd iechyd, lle'r oeddent yn datgan mai
'Llywodraeth Cymru a'r tîm gweithredol sy'n rhedeg y bwrdd iechyd, ac nid yw'r bwrdd ond yn ôl-ystyriaeth ar adegau.... Mae'r rhai a frwydrodd i weld y sefydliad yn dysgu o fethiannau'r gorffennol wedi cael eu disodli.'
Yn ei gyfarfod ar 3 Mai, derbyniodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth gan gyn-aelodau anweithredol annibynnol y bwrdd iechyd a orfodwyd i ymddiswyddo gan y Gweinidog. Roedd hyn yn cynnwys:
'Yr aelodau annibynnol felly ddaeth ag Ernst & Young i mewn i wneud adolygiad manwl annibynnol pellach, ac ar hyn o bryd mae'n adroddiad nad yw wedi ei ryddhau i'r cyhoedd eto... roeddem yn gwbl syfrdan gyda'r datganiad 'dim gweithredu pellach' gan y gwasanaeth atal twyll yn y GIG pan fo eitemau yn adroddiad Ernst & Young yn dangos yn eithaf clir ystod o afreoleidd-dra ariannol sylweddol, nid yn unig o fewn Betsi, ond o bosibl yn cyrraedd adrannau eraill ar draws y GIG yng Nghymru, byrddau iechyd eraill, ac i mewn i Lywodraeth Cymru ei hun mewn gwirionedd.'
ac, 'Nid y perfformiad ariannol oedd yr unig faes oedd yn peri pryder. Dylid rhyddhau adroddiad Ernst & Young o ystyried yr hyn a wyddem.'
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, rwyf wedi bod mewn trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ers rhai wythnosau, i gael copi o'r adroddiad hwn ar gyfer craffu arno'n ffurfiol gan y pwyllgor. Rydym wedi cynnig trafod amryw o opsiynau ynghylch sut y gellir rhannu'r adroddiad gyda ni i sicrhau na chaiff unrhyw ymchwiliadau parhaus mo'u rhwystro. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau copi o'r adroddiad hwn trwy sianeli swyddogol cyn gynted â phosibl.
Rydym i gyd yn ymwybodol o ddiddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, ac er bod cynnwys yr adroddiad wedi'i nodi'n gyhoeddus, mae'n rhwystredig nad yw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cael cyfle i gyflawni gwaith craffu priodol. Mae'n hanfodol fod ein cais yn cael ei drin yn gyflym er mwyn caniatáu gweithredu a chraffu buan a thrylwyr gan y pwyllgor.
Os na fydd yr adroddiad ar gael i'r pwyllgor, byddwn yn archwilio ein pwerau i alw, o dan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio na fydd angen inni arfer y pŵer cyfreithiol hwn ac rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gydnabod y parch sy'n ddyledus i ddeddfwrfa genedlaethol ar fater o bwys fel hwn.