Diolch, Lywydd. Mae ein cynnig heddiw'n nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol ar brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae’r cynnig wedi’i seilio’n gyfan gwbl ar yr adroddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ddeilliodd o hyn, a oedd yn ceisio rhoi llais a phlatfform i bobl a sefydliadau ar reng flaen y pandemig. Mae’r adroddiad yn crynhoi’r ymatebion ysgrifenedig a llafar a ddaeth i law, a oedd yn manylu ar brofiadau pobl o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig. Rhoddodd y rhan fwyaf o ymatebwyr dystiolaeth yn seiliedig ar eu profiad unigol, personol a phroffesiynol eu hunain fel aelodau teuluol, gofalwyr di-dâl, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a meddygon.
Mae’n amlwg o’r cyfraniadau hynny fod pandemig COVID-19 wedi troi byd gofal lliniarol ar ei ben, gan darfu’n ddramatig ar fywydau unigolion ar ddiwedd eu hoes, eu hanwyliaid, a’r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a fu'n eu cefnogi. Rwy'n diolch i'r teuluoedd, y gofalwyr, y nyrsys, y meddygon a llawer o bobl eraill a rannodd eu hadroddiadau torcalonnus ond ysbrydoledig a chraff hefyd am ofalu am rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed mewn cyfnod eithriadol o anodd. Roeddem am ddysgu o’u profiadau o ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal fel y gallwn fod yn fwy parod ar gyfer unrhyw drychineb yn y dyfodol, a bod mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael ag effeithiau parhaus COVID a'r argyfwng costau byw. Credwn fod hyn yn bwysicach nag erioed, o ystyried y rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned bron yn dyblu erbyn 2040, ac mae’r pandemig wedi rhoi cipolwg i ni ar sut y bydd ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol heb fod yn rhy bell. Mae ein cynnig heddiw'n ymgorffori hyn, ac yn cydnabod bod gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rhan hollbwysig yn ystod pandemig COVID-19 ac wedi mynd y tu hwnt i’r galw wrth gefnogi cleifion a’u teuluoedd.
Mae canfyddiadau allweddol o'r ymchwiliad yn cynnwys y ffaith bod cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal a lleoliadau eraill wedi achosi poen a thrallod aruthrol, gan adael llawer o gleifion a’u teuluoedd wedi'u hynysu ar ddiwedd eu hoes, gan arwain at achosion o brofedigaeth gymhleth. Roedd llawer o bobl wedi cael profiadau torcalonnus o ofalu am anwyliaid gartref, ac wedi'i chael hi'n anodd cael mynediad at gymorth gofal lliniarol digonol. Roedd pobl ar ddiwedd eu hoes yn wynebu trosglwyddiadau anodd a thrasig rhwng y cartref, yr ysbyty a chartrefi gofal. Sbardunodd ymatebion i'r pandemig chwyldro mewn cydweithredu, gweithio creadigol a'r defnydd o dechnoleg cyfathrebu ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn darparu gofal lliniarol. Roedd staff cartrefi gofal a’r rheini a oedd yn gweithio gyda hwy'n pryderu ar brydiau ynglŷn â rhyddhau cleifion o’r ysbyty i gartrefi gofal, a’r defnydd o benderfyniadau i beidio â darparu triniaeth ddadebru gardio-anadlol’.
Roedd prinder eang o staff, cyfarpar diogelu personol—PPE—a meddyginiaeth diwedd oes, a gafodd effaith ar y ddarpariaeth o ofal lliniarol hanfodol. Ychwanegodd mesurau atal a rheoli heintiau mewn cartrefi at y tarfu, gan ei gwneud yn ofynnol yn aml i breswylwyr hunanynysu yn eu hystafelloedd am gyfnodau hir. O ganlyniad, wynebodd nifer ohonynt ynysigrwydd cymdeithasol, gan arwain, yn aml, at ddirywiad sylweddol yn eu lles meddyliol a chorfforol. Gwnaeth y defnydd o fasgiau amddiffynnol yr ychydig gyswllt a gaent gyda gofalwyr a phreswylwyr yn anos. Roedd hyn yn arbennig o ddinistriol i'r rheini a chanddynt anawsterau cyfathrebu neu nam gwybyddol, ac effeithiwyd yn anghymesur ar y bobl hynny.
Canfu ein hadroddiad fod diffyg cyfarpar diogelu personol a phrinder meddyginiaeth diwedd oes, yn enwedig yn nyddiau cynnar y pandemig, yn broblemau cyffredin a nodwyd gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a fu'n darparu gofal lliniarol yn y gymuned. Mewn llawer o achosion, roedd gweithwyr gofal lliniarol a gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar roddion neu eitemau cyfarpar diogelu personol, fel feisorau, sgrybs a masgiau o'r gymuned leol, a gwnaethant ddisgrifio sut y teimlent yn ofnus am eu diogelwch. Cyfeiriodd tystiolaeth gan Marie Curie at astudiaeth lle soniodd bron hanner yr ymatebwyr gofal iechyd yng Nghymru am brinder cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant annigonol ar sut i’w ddefnyddio, gan effeithio ar eu gallu i ddarparu gofal i gleifion. Canfu’r un astudiaeth fod ymatebwyr o Gymru'n fwy tebygol o brofi prinder meddyginiaeth o gymharu â rhannau eraill o’r DU, gyda mwy na 40 y cant yn nodi prinder o feddyginiaeth diwedd oes.
Mae ein hadroddiad yn argymell felly y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ganolog i gynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol, a gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i adolygu sut y gellid rhoi rheoliadau ymweld yn y dyfodol ar waith mewn ffordd fwy tosturiol a chyson i’r rheini sydd angen gofal lliniarol, a bod yn rhaid i ganfyddiadau ac argymhellion ymchwiliad COVID-19 y DU gael eu llywio gan brofiadau pobl yng Nghymru, a chydnabod yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar systemau gofal iechyd y genedl, yn enwedig i bobl ar ddiwedd eu hoes.
Er bod yr ymateb ffurfiol i’n hadroddiad, a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ddoe, wedi derbyn y cyntaf o’r argymhellion hyn, mae’n achos pryder nad yw'r testun cysylltiedig ond yn cyfeirio’n uniongyrchol at ‘ymgynghori’ â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol â phrofiadau personol o'r tu allan i leoliadau’r GIG, yn hytrach na gweithio gyda hwy i adolygu sut y gellid rhoi rheoliadau ymweld yn y dyfodol ar waith mewn ffordd fwy tosturiol a chyson ar gyfer y rheini sydd angen gofal lliniarol.
Er bod ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw’r ail o’r argymhellion hyn yn berthnasol iddynt, maent yn dweud eu bod yn ei gefnogi, ac yn nodi bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU wedi ymrwymo’n llwyr i gasglu gwybodaeth am brofiadau pobl yng Nghymru a ledled y DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, mynegodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru eu pryder parhaus wrthyf yn y Senedd yr wythnos diwethaf y bydd fformat ymchwiliad y DU yn ei atal rhag cael ei lywio'n llawn gan eu profiadau.
Canfu ein hadroddiad hefyd fod y pandemig wedi arwain at gynnydd aruthrol yn y galw am ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned, gyda marwolaethau yn y cartref yn cynyddu dros 30 y cant, ac yn parhau ar y lefel hon heddiw, tra bo marwolaethau mewn cartrefi gofal ac ysbytai wedi dychwelyd yn agosach at y lefelau cyn COVID, ar ôl cyrraedd uchafbwynt ar ddechrau'r pandemig; fod gofal lliniarol wedi'i flaenoriaethu a'i ailgyfeirio mewn cymunedau i ddiwallu'r cynnydd yn y galw; fod gwasanaethau gofal hosbis a gofal lliniarol a oedd wedi’u hintegreiddio ac yn canolbwyntio mwy ar y gymuned cyn COVID mewn gwell sefyllfa i ymdopi â heriau’r pandemig; fod pobl, er gwaethaf ymdrechion anhygoel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn dal i wynebu diffyg cymorth gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn eu cartrefi, ac yn dibynnu’n helaeth ar deuluoedd a ffrindiau ar ddiwedd eu hoes; a bod cartrefi gofal, ar adegau, wedi wynebu heriau wrth gael mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â lleoliadau gofal iechyd cydnabyddedig.
Clywodd y grŵp trawsbleidiol adroddiadau a oedd yn peri cryn bryder, ynglŷn â rhai cartrefi gofal yn cael eu cymell i dderbyn cleifion a chanddynt COVID, neu yr amheuid bod ganddynt COVID, yn ogystal â dryswch ynglŷn â'r lle gorau i ofalu amdanynt. Dywedodd staff cartrefi gofal fod sefyllfaoedd o’r fath wedi'u rhoi dan bwysau aruthrol, ac wedi creu pryderon gwirioneddol i breswylwyr a’u teuluoedd. Gwnaeth profiadau o’r fath iddynt deimlo bod y sector cartrefi gofal a’i breswylwyr wedi cael eu hanghofio, ac yn cael eu hystyried yn llai gwerthfawr yn neges ehangach y Llywodraeth i ddiogelu'r GIG.
Mae ein cynnig yn gresynu at y ffaith bod rhai pobl, yn ystod pandemig COVID-19, wedi wynebu anawsterau wrth gael mynediad at ofal diwedd oes gartref ac mewn cartrefi gofal, er gwaethaf ymdrechion y rheini a oedd yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd ein hargymhellion yn cynnwys argymhelliad y dylai’r adolygiad o'r cyllid ar gyfer gofal diwedd oes roi blaenoriaeth i ddatblygu capasiti gofal lliniarol yn y gymuned, gyda’r nod o wneud gofal yn y cartref ac mewn cartrefi gofal yn gyfartal o ran blaenoriaeth i ofal cleifion mewnol, gan ddechrau gyda gwella cymorth y tu allan i oriau, a sicrhau bod gan bobl un pwynt mynediad at ofal cydgysylltiedig. Hefyd, y dylai bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ddatblygu cynllun gweithredu manwl ar gyfer y datganiad ansawdd newydd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy’n sicrhau bod blaenoriaethau pobl ar gyfer mannau darparu gofal yn cael eu hadlewyrchu wrth gynllunio'r gweithlu a buddsoddi ar lefel leol. Ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn rhan annatod o ddatblygiad y gwasanaeth gofal cenedlaethol newydd a’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol, a chynnwys pobl a chanddynt brofiadau personol a phroffesiynol yn y broses hon.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, nid yw’r testun cysylltiedig yn cydnabod bod yn rhaid i ddarparwyr gofal hanfodol anstatudol yn y gymuned, gan gynnwys hosbisau a chartrefi gofal, ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o lunio a darparu gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol. Mae ein cynnig yn gofyn i’r Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r sector gofal lliniarol, i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal lliniarol yn cael lle canolog yn y cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol. Ac i flaenoriaethu datblygiad capasiti gofal lliniarol yn y gymuned; a sicrhau bod penderfyniadau ynghylch y gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu'r rheini sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Fel y dywedodd Marie Curie wrthym, mae angen cymorth sylweddol a pharhaus i sicrhau bod gofal lliniarol yn cael y gweithlu sydd ei angen arno yn y dyfodol. Diolch yn fawr.