Wrth siarad yn nigwyddiad STEMM y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn y Senedd ddoe, pwysleisiodd AS Gogledd Cymru Mark Isherwood “wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae buddsoddi mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth yn bwysicach nag erioed”.
Fodd bynnag, mynegodd bryder bod gwariant Ymchwil a Datblygu i lawr yn sylweddol yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, a hefyd yn llai na’r Alban, a bod diffyg graddedigion STEMM yng Nghymru.
Dwedodd ef:
“Mae gan Brydain hanes hir o arwain ac arloesi, o’r injan stêm i’r We Fyd Eang, sydd wedi dod â thwf a ffyniant. Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn hyn. O’r locomotif stêm cyntaf yn y byd i’r llong hofran fodern, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiad technolegol. Mae Cymru hefyd wedi bod yn gartref i rai o ddyfeiswyr a gwyddonwyr enwocaf y byd, gan gynnwys Syr Richard Owens, tad y diwydiant petrocemegol modern, a Syr David Brewster, dyfeisiwr y caleidosgop.
“Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae buddsoddi mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth yn bwysicach nag erioed. Yn y cyd-destun hwn fodd bynnag, dangosodd ffigurau swyddogol ar gyfer 2020 fod Lloegr yn cyfrif am 88.1% o Wariant Ymchwil a Datblygu’r DU, ac yna’r Alban gyda 7.7%, ond dim ond 2.4% oedd gan Gymru.
“Mae’r DU yn perfformio’n well na’i chystadleuwyr agosaf, gyda 4 o’r 10 prifysgol orau yn y byd a sector technoleg gwerth dros un triliwn o ddoleri. Os rhowch 8 yn unig o drefi prifysgol y DU at ei gilydd, maen nhw’n gartref i fwy o fusnesau newydd unicorn biliwn o ddoleri na Ffrainc a’r Almaen i gyd gyda’i gilydd.”
Ychwanegodd:
“Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei Strategaeth Arloesedd i Gymru, sy’n cydnabod sut mae Cymru wedi cael ei “integreiddio i ecosystem ymchwil ac arloesi y DU” ers dechrau datganoli. Dywed Llywodraeth Cymru mai nod y Strategaeth yw sicrhau mwy o les i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru; strategaeth newydd integredig i arwain llywodraeth, busnes, y trydydd sector, y byd academaidd a phobl i gyflawni nodau uchelgeisiol, ond cyraeddadwy.
“Fodd bynnag, tynnodd Grŵp Trawsbleidiol diweddaraf y Senedd ar STEMM sylw at y diffyg graddedigion STEMM a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar fusnes, buddsoddiad, ac economi Cymru. Roedd hyn ynghyd â materion a godwyd yn ymwneud ag addysg – megis diffyg athrawon gwyddoniaeth pwnc-benodol, materion adnoddau, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl ifanc sy’n cymryd pynciau STEMM, ac wedyn yn symud i’r sector STEMM fel gyrfa. Teimlwyd nad oedd y mater hwn yn ymwneud ag addysg na’r economi yn unig, ond o’r ddau, ac roedd y Grŵp Trawsbleidiol yn awyddus i archwilio rôl STEMM mewn addysg a rôl STEMM fel gyrrwr allweddol datblygiad economaidd yng Nghymru. ”