Diolch. Fel y dywed ein cynnig, mae asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. Gofynnwn felly i'r Senedd hon gydnabod bod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi, a galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned leol. Cydgynhyrchu go iawn sydd wrth wraidd hyn. Gan bwysleisio natur wirioneddol drawsnewidiol cydgynhyrchu wrth arwain y ddadl gyntaf yma ar gydgynhyrchu ddegawd yn ôl, dywedais nad
'rhyw ychwanegiad deniadol yw hynny ond ffordd newydd o weithredu ar gyfer y Llywodraeth yn ogystal ag ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion eu hunain.'
Fodd bynnag, er bod hyn yn ganolog, er enghraifft, i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, canfu adroddiadau olynol, gan gynnwys adroddiad gan Archwilio Cymru ym mis Ionawr, fod gwaith awdurdodau lleol ar gadernid cymunedol yn cael ei ddiffinio'n wael yn rhy aml, a bod y camau gweithredu yn rhy gul eu ffocws. Heb fonitro a gwerthuso effeithiol, rydym yn gweld uwch-swyddogion cyhoeddus yn gwthio'n ôl yn aml, oherwydd nad ydynt eisiau rhannu pŵer gyda'r bobl, yn unigol neu mewn cymunedau, gan honni ar gam fod y newid dull hwn yn anfforddiadwy, er bod ei wneud yn iawn yn arbed arian mewn gwirionedd, gan droi problemau'n atebion. Felly mae angen inni groesawu cydgynhyrchu'n llawn, gan symud y tu hwnt i rethreg ac ymgynghori, i wneud pethau'n wahanol yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau'n gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth gyda'r sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill a'u grymuso, er mwyn helpu i ddarparu'r atebion i broblemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd galluogi Cymru yn galw am ddatblygu strategaeth gymunedol drosfwaol hirdymor i helpu i rymuso pobl leol a sefydlu datblygu cymunedol sy'n seiliedig ar asedau fel egwyddor allweddol o fewn datblygu cymunedol, gan ddatgloi pobl ac asedau ffisegol, grymuso pobl y gymuned, a defnyddio cryfderau cymunedol presennol i adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ymgorffori'r egwyddor o gydgynhyrchu wrth lunio a darparu gwasanaethau lleol yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn fwy ymatebol i anghenion pobl.
Wedi'i ariannu drwy ddyraniad loteri, mae'r sefydliad datblygu cymunedol cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yn gweithredu rhaglen 'buddsoddi'n lleol' mewn 13 cymuned leol ledled Cymru. Ymwelais ag un yr haf hwn. Maent yn parhau i weithio o fewn tair thema allweddol: mwy o gydnabyddiaeth a hawliau, mwy o barch a mwy o fuddsoddiad i gymunedau. Yn eu briff i aelodau newydd ar ôl etholiad 2021, roeddent yn nodi bod ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dangos eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ac nad ydynt yn cael digon o adnoddau gan Lywodraeth leol a chenedlaethol. Maent wedi gwneud ymchwil ar faint o asedau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat a gaiff eu rhedeg gan sefydliadau cymunedol, ac ar ymatebion cymunedol i'r pandemig. Ymunais â'u digwyddiad i lansio mynegai asedau cymunedol Cymru ddydd Llun yr wythnos hon. Datgelodd y gwaith ymchwil hwn fod 102 o ardaloedd llai gwydn nas nodwyd o'r blaen ledled Cymru. Mae'n dangos bod cymunedau sydd â llai o leoedd i gyfarfod, cymuned lai ymgysylltiol a gweithgar a llai o gysylltedd â'r economi ehangach yn profi canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol wahanol, o gymharu â chymunedau sydd â mwy o'r asedau hyn, a bod gan gymunedau sydd â llai o'r asedau hyn gyfraddau uwch o ddiweithdra. Roeddent yn dweud bod trigolion yn aml heb gymwysterau ac yn dioddef salwch hirdymor cyfyngus i raddau mwy nag ardaloedd yr ystyrir fel arfer eu bod yn ddifreintiedig ond sydd â'r asedau hynny, a Chymru gyfan. Hefyd, mae ganddynt lefelau is o weithgarwch cymunedol ac maent yn derbyn lefelau is o gyllid gan y wladwriaeth a chyllidwyr elusennol, er gwaethaf eu heriau cymdeithasol.
Er mwyn lleihau'r gwahaniaethau hyn sy'n seiliedig ar leoedd, mae eu chwe argymhelliad allweddol yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru greu cronfa cyfoeth cymunedol o Ddeddf Asedau Segur 2022 a rhaid sicrhau, drwy ganllawiau cryfach neu ddeddfwriaeth, fod gan gymunedau broses symlach i gymryd rheolaeth ar gyfleusterau cymunedol allweddol. Fodd bynnag, er gwaethaf Deddf Lleoliaeth y DU 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ei gwneud yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru gadw rhestr o asedau cymunedol, a chyflwyno hawl i gymunedau wneud cynnig am asedau o werth cymunedol, yn wahanol i Loegr. Mae ein cynnig, felly, yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau, fel yn yr Alban, nac unrhyw hawl i gynnig, herio neu adeiladu, fel yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i redeg ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned leol, a chyflwyno cronfa perchnogaeth gymunedol a'r hawl i wneud cynnig.