Wel, rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a ddrafftiwyd gydag elusen Pancreatic Cancer UK. Mae'n bleser gennyf ddweud bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig yma, ac mae'n cynnig bod y Senedd yn nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas, fod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o'i gymharu â llawer o weddill Ewrop a'r byd, fod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser, gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch, fod pobl, ar ôl canfod y canser, yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael yr wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith a heb help i reoli symptomau, ac ar ôl cael diagnosis, dim ond tri o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu bod y Senedd yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.
Canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf marwol, sy'n effeithio ar 500 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a 10,000 o bobl y flwyddyn ledled y DU. Mae tri o bob pump o'r rhain yn cael diagnosis ar gam hwyr. Yn anffodus, bydd dros eu hanner yn marw o fewn tri mis i gael diagnosis, a dim ond 6 y cant yng Nghymru fydd yn goroesi am fwy na phum mlynedd. Mewn cymhariaeth, mae'r tebygolrwydd o oroesi canserau eraill y tu hwnt i bum mlynedd yng Nghymru yn 50 y cant. Mae'r ystadegau hyn yn frawychus ac yn gywilyddus a phrin eu bod wedi newid mewn 50 mlynedd. Fodd bynnag, gyda thriniaeth a gofal cyflym a theg, a buddsoddiad clyfar i wneud iddo ddigwydd, byddai gan fwy o bobl obaith o oroesi.
Mae Cymru wedi bod yn llusgo ar ei hôl hi ac erbyn hyn, mae'n 31ain allan o 33 o wledydd gyda data cymharol ar y gyfradd o bobl sy'n goroesi canser y pancreas am bum mlynedd. Er bod canlyniadau ar gyfer canserau eraill wedi gwella, mae pethau wedi aros yr un fath i bobl â chanser y pancreas. Mae'r bwlch goroesi rhwng canser y pancreas a chanserau eraill wedi dyblu yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Nid yw saith o bob 10 o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn cael unrhyw driniaeth, naill ai oherwydd bod eu canser yn cael ei ganfod yn rhy hwyr neu oherwydd bod eu hatgyfeiriadau'n cymryd gormod o amser i driniaeth fod yn effeithiol.
Mae Pancreatic Cancer UK ei hun yn elusen ledled y DU sy'n darparu gwasanaethau cymorth, yn ariannu ymchwil ac yn ymgyrchu am well triniaeth, gofal a chymorth i bobl â chanser y pancreas. Yn ddiweddar, maent wedi lansio eu hymgyrch 'Don't Write Me Off', gan alw am lwybr triniaeth a gofal cyflymach a thecach wedi'i ariannu'n llawn i bobl â chanser y pancreas. Wedi'i ddatblygu ochr yn ochr â grŵp o arbenigwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl â phrofiad o'r clefyd, byddai'r llwybr hwn yn gwella triniaeth a chyfraddau goroesi ac yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl yr effeithir arnynt gan ganser y pancreas. Maent yn dweud y gallai mwy na 250 o bobl ledled Cymru fyw bywydau hirach a gwell dros y pum mlynedd nesaf pe bai'r llwybr hwn yn cael ei weithredu nawr. Mae angen diagnosis cynharach a chyflymach; nid oes gan bobl sydd â chanser y pancreas amser i aros. Heb unrhyw sgrinio na phrofion penodol, a symptomau annelwig a gaiff eu camgymryd am gyflyrau llai difrifol yn aml, daw diagnosis o ganser y pancreas yn rhy hwyr o lawer i ormod o bobl. Dyfyniad ganddyn nhw oedd hwnnw.
Mae cydweithrediaeth GIG Cymru wedi datblygu llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas—mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hyn—ond rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru ariannu a gweithredu hyn yn llawn. Felly, mae Pancreatic Cancer UK yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu llwybr delfrydol cenedlaethol Cymru ar gyfer achosion lle'r amheuir canser y pancreas neu lle cafodd canser y pancreas ei gadarnhau, sy'n sicrhau safon triniaeth 21 diwrnod o'r diagnosis o ganser y pancreas i'r driniaeth gyntaf, ac i ddarparu cyllid hirdymor i fyrddau iechyd fel y gallant weithredu a chynnal y llwybr ar gyfer canser y pancreas i helpu i sicrhau diagnosis cynharach a chyflymach i gleifion. Fel y maent yn dweud, mae gormod o bobl â chanser y pancreas nad ydynt yn cael y cymorth a'r gofal sydd ei angen arnynt mor daer—cânt eu gadael i ymladd y system ac mae'r gofal a gânt yn dibynnu gormod ar ble maent yn byw a ble maent yn cael eu triniaeth.
Un enghraifft yw presgripsiynau ar gyfer therapi amnewid ensymau pancreatig, PERT, sef tabledi syml sydd ar gael yn gyflym o fferyllfeydd sy'n amnewid ensymau, felly, hyd yn oed pan fydd y pancreas yn stopio gweithio, gellir treulio bwyd o hyd. Mae'n lleihau symptomau gwanychol ac yn helpu i adeiladu cryfder ar gyfer triniaeth, ond nid yw mwy na thraean o gleifion yng Nghymru yn eu cael, ac eto y canllawiau yw y dylent gael eu presgripsiynu i bob claf er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Mae angen inni wybod pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rhinweddau o weithredu'r llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas, pa asesiad a wnaeth o gyfraddau goroesi canser y pancreas yng Nghymru mewn perthynas â gwledydd eraill yn y DU a gwledydd eraill tebyg, a pha gamau y mae wedi'u cymryd i'w gwella, pa asesiad y mae wedi'i wneud o rinweddau cynnal archwiliad o'r gweithlu canser y pancreas yng Nghymru, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu swyddi canser y pancreas arbenigol ym mhob bwrdd iechyd nawr neu yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu swyddi canser y pancreas arbenigol ym mhob bwrdd iechyd fel y gall pawb dderbyn cyngor, gofal a chymorth gan arbenigwr proffesiynol dynodedig o'r pwynt y ceir diagnosis.
Mae cynllunio ac ariannu gweithlu effeithiol yn hanfodol oherwydd bod angen cymorth cofleidiol a thriniaeth gyflym o ansawdd uchel ar bobl â chanser y pancreas o'r eiliad y maent yn cysylltu â'u meddyg teulu ymlaen. Gwyddom fod prinder ar draws bron bob rôl sy'n gysylltiedig â chanser, o ochr y gwely i'r labordy, ac y bydd y DU yn brin o 4,000 o nyrsys canser erbyn y flwyddyn 2030. Mae hi bellach yn ddwy flynedd ers i Cymorth Canser Macmillan rybuddio bod Cymru yn wynebu argyfwng nyrsio canser a allai adael niferoedd cynyddol o gleifion heb y gofal a'r cymorth meddygol cywir, ac mae angen i nifer y nyrsys canser arbenigol yng Nghymru gynyddu 80 y cant i gefnogi'r 230,000 o bobl y rhagwelir y byddant yn byw gyda chanser yng Nghymru erbyn diwedd y degawd hwn. Fodd bynnag, ceir pryder fod diffyg dealltwriaeth o hyd yn y Llywodraeth o ble mae'r bylchau hyn yn y gweithlu ar hyn o bryd a sut maent yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl â'r canser cyffredin mwyaf marwol. Rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i gynnal archwiliad cynhwysfawr o'r gweithlu canser y pancreas, nodi bylchau a gweithredu ar frys i'w llenwi. Yna, rhaid iddynt ddefnyddio gwersi o'r archwiliad i ddyrannu cyllid cynaliadwy i sicrhau y gellir gweithredu'r llwybr gofal delfrydol ac achub bywydau.
Mae buddsoddiad mewn cyllid ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer canser y pancreas hefyd wedi bod yn rhy isel ers gormod o amser ledled y DU. Hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl, dim ond £5 miliwn oedd yn mynd tuag at ymchwil ar gyfer canser y pancreas bob blwyddyn, o'i gymharu â dros £30 miliwn ar gyfer lewcemia. Mae angen buddsoddiad o £35 miliwn bob blwyddyn ar draws y DU gyfan, gan gynnwys Cymru, i gyflawni gwelliannau hanfodol i drawsnewid cyfraddau goroesi canser y pancreas. Rydym yn gwybod bod y dull hwn o weithredu'n gweithio, oherwydd mae cyllid ar gyfer ymchwil i lewcemia, sydd â chyfradd achosion debyg iawn i ganser y pancreas, wedi dyblu, bron iawn, ers y flwyddyn 2000, a chyda hynny, cafwyd gostyngiad o 16 y cant yn nifer y marwolaethau. Efallai mai canser y pancreas fydd y clefyd nesaf i elwa o gyfraddau goroesi gwell drwy gynyddu cyllid ymchwil.
Hyd yn hyn, mae Pancreatic Cancer UK wedi buddsoddi dros £12 miliwn mewn ymchwil i ganser y pancreas, ac wrth symud ymlaen, maent wedi ymrwymo i ariannu mwy fyth o ymchwil i ganser y pancreas bob blwyddyn. Mae Cymru eisoes yn gartref i waith ymchwil cyffrous ac arloesol ar gyfer canser y pancreas. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, maent wedi ariannu gwerth dros £0.25 miliwn o ymchwil gan Dr Beatriz Salvador Barbero, sy'n ymchwilio i'r newidiadau biolegol sy'n digwydd yn natblygiad cynnar canser y pancreas. Gallai deall beth sy'n achosi i ganser y pancreas ddechrau a datblygu ein helpu i wella'r broses o ganfod y clefyd yn gynnar ac agor llwybrau triniaeth newydd i rwystro'r prosesau hyn, gan gynyddu'r gobaith o oroesi.
Mae'r data sydd ar gael ar ofal canser yng Nghymru yn llawer mwy cyfyngedig na data gwledydd eraill y DU. Er enghraifft, mae'r unig ddata sydd ar gael ar amddifadedd cymdeithasol yn ymwneud â chyfraddau marwolaeth. Mae llawer o'r bwlch data'n ymwneud ag edrych ar ganlyniadau a llwybrau triniaeth a gofal, nid yn unig o ran amddifadedd, ond o ran ethnigrwydd, anabledd a hunaniaeth LHDTCRh+ hefyd. Heb y data hwn, mae'n anodd nodi effeithiau anghydraddoldebau iechyd a gweld yn glir lle mae pobl yn cael profiadau gwahanol o ofal mewn perthynas â'u cefndir. Mae Pancreatic Cancer UK yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar yr un lefel â Lloegr, lle gellir cynnal anonymeiddio. Maent hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fynd hyd yn oed ymhellach, gan ddarparu data ar ethnigrwydd, anabledd a hunaniaeth LHDTCRh+, er mwyn deall effeithiau'r nodweddion hyn ar brofiadau o ofal canser yng Nghymru. Gallai gosod bar uwch ar gyfer data ynghylch profiadau o ofal canser nid yn unig wneud Cymru'n arweinydd yn y DU ar gyfer deall a gweithredu ar anghydraddoldebau iechyd mewn gofal canser, a chydnabod hefyd fod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.