Byddwn yn falch o gefnogi'r cynnig hwn, ac unig fwriad ein gwelliannau yw ei gryfhau. Er bod nifer yr aelwydydd sydd mewn dyled wedi gostwng, mae lefelau uwch o ddyledion bellach wedi'u crynhoi mewn llai o aelwydydd. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys, mae ein gwelliant cyntaf yn ychwanegu cyfeiriad penodol at bobl hŷn a phobl sy'n byw gyda salwch angheuol. Canfu adroddiad Gofal a Thrwsio, 'Older People in Wales: Poverty in Winter' y bydd eu cleient cyffredin yn gwario, ar gyfartaledd, 19 y cant o'u hincwm ar gyfleustodau y gaeaf hwn, yn cynnwys 15 y cant ar nwy a thrydan, gan roi'r bobl hŷn hyn mewn tlodi tanwydd. Ymhellach, maent yn tynnu sylw at y pryder fod pobl yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi yn talu £82 ychwanegol mewn taliadau sefydlog bob blwyddyn o gymharu â Llundain. Mae Marie Curie yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu pobl sydd â 12 mis neu lai i fyw at feini prawf cymhwysedd cyflyrau iechyd yn ei rhaglen Cartrefi Clyd.
Mae ein hail welliant yn ceisio cryfhau galwad y cynnig ar Lywodraeth Cymru i osod targedau interim yn eu cynllun 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035', drwy alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cerrig milltir interim i'r cynllun. Fel mae National Energy Action Cymru a Sefydliad Bevan yn ei nodi, er y bydd targedau tlodi tanwydd interim sy'n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yn darparu cyfleoedd hanfodol i adolygu cynnydd tuag at 2035, nid yw'r targedau newydd yn bodloni rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru i bennu amcanion interim i'w cyflawni a dyddiadau targed ar gyfer eu cyflawni—statudol. Fel y dywed Cyngor ar Bopeth Cymru, byddai targedau interim yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am gynnydd.
Mae ein gwelliant 3 yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd cyn gaeaf 2023 er gwaethaf sicrwydd y byddai'n gwneud hynny. Yn ôl Llywodraeth Cymru, y rhaglen Cartrefi Clyd yw ei phrif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd y cynllun newydd yn seiliedig ar alw ac yn cynorthwyo'r rhai sydd leiaf abl i dalu. Er gwaethaf y geiriau o sicrwydd, fodd bynnag, ni weithredodd Llywodraeth Cymru y rhaglen cyn gaeaf 2023. Yn wir, er bod strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn datgan y byddent yn:
'ymgynghori ar drefniadau diwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau i drechu tlodi tanwydd y tu hwnt i fis Mawrth 2023'
rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021, ni lansiwyd yr ymgynghoriad tan fis Rhagfyr 2021. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymateb ac yn gweithredu eu canfyddiadau, gan ddechrau ym mis Ebrill 2023, ond ni wnaethant hyd yn oed ymateb tan fis Mehefin 2023. Rwyf wedi cael gwybod dro ar ôl tro gan wahanol Weinidogion yn y Siambr hon y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cael ei gweithredu cyn y gaeaf hwn, ond cyfaddefodd y Prif Weinidog o'r diwedd yr wythnos diwethaf eu bod bellach yn anelu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, sef 5 Ebrill y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r gaeaf ddod i ben.
Mae ein gwelliant olaf yn nodi'r gwaith parhaus gan Ofgem a Llywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu heriau costau byw, ac i ddiogelu defnyddwyr. Mae dadansoddiad gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod maint gros pecyn cymorth ynni Llywodraeth y DU o'i gymharu â chynnyrch domestig gros yn un o'r rhai uchaf yn Ewrop. Roedd datganiad yr hydref y Canghellor fis diwethaf yn nodi bod gwarant pris ynni a chynllun cymorth biliau ynni Llywodraeth y DU wedi talu am bron i hanner bil ynni'r teulu cyffredin rhwng mis Hydref 2022 a mis Mehefin 2023, yn ogystal ag uwchraddio budd-daliadau a'r gefnogaeth i aelwydydd agored i niwed, a oedd yn cynnwys taliadau costau byw newydd yn 2023-24 ac estyniad o £1 biliwn i'r gronfa gymorth i aelwydydd.
Mae cap prisiau Ofgem yn gosod terfyn ar yr hyn y gall cyflenwyr ei godi ar aelwydydd fesul uned o ynni. Fel y dywedodd Ofgem wrthym yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, mae'r cynnydd i'r cap prisiau—nad oes croeso iddo, wrth gwrs—o 1 Ionawr 2024 yn digwydd oherwydd y cynnydd yng nghost ryngwladol ynni, a achosir gan ddigwyddiadau ar lefel fyd-eang. Er bod lansiad eu cod ymarfer ar osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol wedi'i groesawu, mae adroddiad y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf, 'Gaeaf Cynhesach', yn iawn i alw ar Ofgem i fonitro effaith y cod, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai ar y terfynau oedran uchaf ac isaf.
Yn olaf—ac mae'n rhaid i mi ei ddweud—dylai'r bobl wirion sy'n dal ati i feio'r argyfwng costau byw ar San Steffan nodi bod adroddiad blynyddol y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar gyfer 2023 yn dweud hyn:
'Mae cyfuniad o siociau hinsawdd a'r pandemig wedi amharu ar gynhyrchu a dosbarthu bwyd ac ynni, gan gynyddu costau