Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid a’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon unwaith eto bod plant agored i niwed a'u teuluoedd yng Nghymru’n cael cam oherwydd nad oes gan Dribiwnlys Addysg Cymru unrhyw bwerau gorfodi.
Mae Mr Isherwood, sy'n cysgodi'r Cwnsler Cyffredinol, wedi codi'r mater dro ar ôl tro gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ond yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw dywedodd wrth y Cwnsler Cyffredinol nad oes dim wedi newid, a bod teuluoedd yn parhau i gysylltu ag ef.
Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ymgynghoriad Papur Gwyn o'r enw “system dribiwnlysoedd newydd i Gymru”, a gaeodd fis Hydref diwethaf.
Dywedodd Mr Isherwood:
“Wrth ymateb i'ch Datganiad yma fis Mehefin diwethaf ar “Ddiwygio Tribiwnlysoedd a Thirwedd Cyfiawnder Esblygol Cymru”, fe wnes i godi pryderon unwaith eto gyda chi bod plant agored i niwed a'u teuluoedd yng Nghymru’n cael cam oherwydd nad oes gan Dribiwnlys Addysg Cymru unrhyw bwerau gorfodi ac na allant gymryd camau gorfodi pellach pan fydd y cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu â chyflawni eu gorchmynion.
“Er gwaethaf dyfarniad yr Uchel Lys yn 2018 bod gwahardd disgybl awtistig am ymddygiad sy'n deillio o'i Awtistiaeth yn anghyfreithlon, rwy'n parhau i dderbyn gwaith achos Gogledd Cymru lle mae hyn yn digwydd.”
Ychwanegodd:
“Wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol rydych chi'n eu cynnig i ddiwygio'r System Tribiwnlysoedd yng Nghymru, sut fyddwch chi felly'n ymateb i'r 80% o ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad oedd yn gofyn a oedd ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwahardd ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gyda Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru’n datgan 'Mae arbenigedd arbenigol Aelodau Arbenigol y Tribiwnlys yn golygu ein bod ni yn y lle gorau i wneud penderfyniadau teg a chyfiawn sy'n annibynnol ar broses ysgol neu awdurdod lleol unigol”.
Gofynnodd hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol sut y bydd yn ymateb i'r 94% o ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad oedd yn gofyn a oedd yr ymatebwyr yn cytuno â'r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol sy'n berthnasol i bawb sydd â chyfrifoldeb am weinyddu cyfiawnder fel sy'n berthnasol i'r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru, ac i'r 91% o ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad yn gofyn a oedd ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gyda rhai ohonynt yn gwneud y pwynt pwysig: 'Dylid tarfu cyn lleied â phosibl heb unrhyw effaith andwyol ar fusnes parhaus pob tribiwnlys'.