Heddiw, mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi nifer o bryderon ynghylch y bwriad i symud i System Budd-daliadau Cymru ac wedi gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yng nghyfarfod y Senedd heddiw ar baratoadau i Gymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb am weinyddu lles, dywedodd Mr Isherwood:
"Roeddwn i’n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a gyhoeddodd Adroddiad yn 2019, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well', a argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio datganoli’r broses asesu ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd’.
"Daethom i’r casgliad, fel y dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru mai ‘problem fwyaf’ pobl gyda’r system yw’r ‘broses asesu a’r trefniadau gweinyddu’, gyda phobl yn cyfeirio at y lefelau uchel o apeliadau llwyddiannau.
"Fodd bynnag, roedd ein hadroddiad yn cydnabod, 'yn yr Alban, nid yw'r cyllid gan Lywodraeth y DU wedi talu am yr holl gostau gweinyddol'. Roeddem hefyd yn argymell 'bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu "system fudd-daliadau Gymreig" gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae (eisoes) yn gyfrifol amdanynt'.
"Bron i bum mlynedd yn ddiweddarach, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd felly i fynd i'r afael â'r materion hyn, y cafwyd tystiolaeth dda ohonynt yn ein hadroddiad?"
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rwy'n credu’ch bod wedi codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chyllid. I mi, mae'n bwysig iawn, pan fyddwn yn ceisio datganoli unrhyw bwerau pellach, ein bod ni'n gwybod pam ein bod am gael y pwerau hynny. Rydym yn gwybod y byddant o fudd i bobl Cymru, ond mae'n bwysig iawn fod y cyllid yn dod hefyd."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Fel y clywsom pan wnaethon ni ymweld â Senedd yr Alban, bu'n rhaid talu'r cynnydd yn y ddarpariaeth a'r costau yno o Gyllideb yr Alban".