Heddiw, mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi noddi ac agor Uwchgynhadledd Cymdeithas Strôc Cymru yn y Senedd.
Mae'r digwyddiad yn gyfarfod blynyddol i bobl sy'n gweithio yn y sector strôc a'r rhai y mae strôc yn effeithio arnyn nhw i glywed yr hyn y mae Cymdeithas Strôc Cymru wedi bod yn gweithio arno, dathlu cyflawniadau a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Mr Isherwood fod dros 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o bobl yng Nghymru yn cael strôc bob blwyddyn.
Cyfeiriodd hefyd at adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr "Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr Strôc" a amlygodd fod darpariaeth a chanlyniadau strôc yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers 2019.
Meddai:
"Mae'r Gymdeithas Strôc yn gweithio i gefnogi gostyngiad yn nifer yr achosion o Strôc yng Nghymru, ac i wella'r gefnogaeth i oroeswyr strôc a'u teuluoedd ar draws y llwybr strôc cyfan.
"Amcangyfrifir bod strôc yn costio £220 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, ac i bob sector o economi Cymru mae hyn yn gost gyfunol o £1.63 biliwn, sy'n cyfateb i £45,409 fesul claf yn y flwyddyn gyntaf.
"Rhagwelir y bydd y gost hon yn codi i £2.8bn erbyn 2035 os na chymerir camau i liniaru hyn."
Ychwanegodd:
"Nododd adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr "Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr Strôc" fod darpariaeth a chanlyniadau strôc yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers 2019.
"Mae'r Gymdeithas Strôc yn gweithio i gefnogi gostyngiad yn nifer yr achosion o strôc yng Nghymru, ac i wella'r gefnogaeth i oroeswyr strôc a'u teuluoedd ar draws y llwybr Strôc cyfan."
Siaradodd Mr Isherwood am yr ystod eang o wasanaethau ar gyfer goroeswyr strôc, eu gofalwyr a'u teuluoedd a ddarperir gan y Gymdeithas Strôc, sy'n cynnwys gwasanaethau a gomisiynir mewn pum Bwrdd Iechyd Lleol, 44 o grwpiau strôc sy'n rhan o'r Rhwydwaith Grwpiau Strôc, a gwasanaethau cymorth cyffredinol y Gymdeithas Strôc fel eu llinell gymorth, eu gwefan a'u cyhoeddiadau.
Ychwanegodd:
"Ar ben hynny, mae darpariaethau eraill yn cael eu cynnig yng Nghymru fel fforymau gwirfoddoli grŵp, a fforymau ymgyrchu.
"Mae'r fforymau hyn yn sicrhau bod llais profiad byw wrth wraidd eu holl wasanaethau a gweithgareddau.
"Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i fwrw ymlaen â gwelliannau a sicrhau canlyniadau gwell i bobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc."
Mae Mr Isherwood, sydd wedi siarad yn Siambr y Senedd o'r blaen i gefnogi galwadau'r Gymdeithas Strôc am ymgyrch FAST o'r newydd – y prawf Wyneb, Braich, Lleferydd, Amser (Face, Arms, Speech, Time) - gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymo i gynnal ymgyrch FAST rheolaidd, i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl', meddai:
"Ym mis Mehefin, y llynedd, ymwelais â Grŵp Strôc Bwcle gyda'r Gymdeithas Strôc i ddysgu am eu profiad o strôc, ac wedi hynny codais y materion yr oedden nhw wedi'u codi gyda mi yn y Senedd.
"Ymhlith y materion y gwnaeth goroeswyr strôc sôn amdanynt oedd diffyg gofal cydgysylltiedig - er bod gweithwyr proffesiynol yn garedig a gofalgar - cael strôc yn Lloegr, ond peidio â chael gwybod beth oedd ar gael pan wnaethon nhw ddychwelyd i Gymru; trafferth cysylltu â meddygon teulu; peidio â chael gwybod beth oedd ar gael pan fyddwch chi'n cael strôc; ac, wrth ofyn a oedd modd iddyn nhw weld arbenigwr strôc, y meddyg yn dweud 'Rhowch eich enw i mi, ac fe wnaf i eich atgyfeirio chi'.
"Wrth siarad yn y Senedd ar ôl fy ymweliad, cyfeiriais at ymgysylltiad arfaethedig y Bwrdd Rhaglen Strôc ar ddyfodol Gwasanaethau Strôc a gofynnais i'r Prif Weinidog ar y pryd sut y bydd yn sicrhau bod lleisiau goroeswyr a gofalwyr Strôc yn cael eu clywed ac yn cymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu'r gwaith hwn.
Mae Mr Isherwood yn aelod o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Strôc a gafodd ei ailsefydlu ym mis Hydref 2023.