Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Pobl Fyddar, Mark Isherwood, yn falch iawn bod ei Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), sydd ei angen yn fawr, yn symud ymlaen ar ôl pleidlais yn y Senedd heddiw.
Fodd bynnag, mae'n bryderus fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths AS, wedi dweud nad yw'n credu bod angen y Bil ac yn poeni y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r Chwip i bleidleisio yn erbyn y Bil ar ei gam nesaf, gan adael Cymru fel yr unig ran o'r DU heb ddeddfwriaeth benodol ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain.
Ym mis Chwefror 2021, yn ystod Tymor diwethaf y Senedd, ac eto ym mis Rhagfyr 2022, yn ystod Tymor y Senedd hon, pleidleisiodd y Senedd, o blaid nodi cynnig Mr Isherwood am Fil a fyddai'n "gwneud darpariaeth i annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain – neu BSL - yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau BSL".
Yng nghyfarfod y Senedd heddiw, gofynnodd am gytundeb y Senedd i gyflwyno'r Bil ac roedd yn falch o dderbyn cefnogaeth gan aelodau.
Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd:
"Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig bob tro, gan ddangos awydd clir am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chydag arwyddwyr BSL, pobl F/fyddar a chymunedau ledled Cymru yn parhau i ofyn i mi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn nawr i geisio cytundeb y Senedd i gyflwyno'r Bil hwn.
"Cefais fy nghalonogi pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y DU, a gyd-lofnodwyd gan yr Arglwydd Holmes Ceidwadol o Richmond, pan sicrhaodd hyn gefnogaeth Llywodraeth y DU, a phan gafodd ei basio ym mis Mawrth 2022 a chael Cydsyniad Brenhinol y mis canlynol.
"Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL yn disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, nid yw Deddf y DU yn cynnwys adrodd yn benodol ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban.
Pwysleisiodd Mr Isherwood, gyda Gogledd Iwerddon yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno Bil Iaith Arwyddion yno, mai Cymru fydd yr unig ran o'r DU nad yw'n dod o dan ddeddfwriaeth benodol Iaith Arwyddion Prydain os na fydd ei Fil yn mynd yn ei flaen.
Ychwanegodd:
"Pwrpas y Bil hwn yw gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn BSL, a chefnogi cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym maes addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.
"Bil Iaith yw hwn sy'n cefnogi arweiniad pobl fyddar Cymru ar holl faterion Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
"Mae'r Bil hwn yn cyd-fynd â saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y maent yn ymwneud ag anghenion hirdymor defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain o bob oedran.
"Byddai'r Bil hwn hefyd yn cefnogi ymrwymiadau presennol gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
"Byddai'r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw arwyddwyr BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sicrhau bod gan gymunedau byddar lais gwirioneddol yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion.
"Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion y gymuned fyddar ac arwyddwyr BSL.”
Ychwanegodd:
"Mae ieithoedd arwyddion yn ieithoedd llawn gyda'u cymunedau, eu hanesion a’u diwylliannau eu hunain.
"Er i Lywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, bu galwadau ers tro byd i roi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru.
"Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus o ran canlyniad.”
Pwysleisiodd Mr Isherwood mai egwyddor y Bil yw "buddsoddi i arbed, gan ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd yn fuan i leihau pwysau ariannol ar wasanaethau statudol yn nes ymlaen".
Meddai:
"Os bydd y Senedd yn cytuno i ganiatáu imi gyflwyno'r Bil hwn heddiw, a thrwy hynny sicrhau bod deddfwriaeth BSL benodol ar waith ym mhedair gwlad y DU, bydd fy nhîm a minnau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, arwyddwyr BSL, a’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, i sicrhau bod ei ddatblygiad yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar bolisi ac yn diwallu anghenion ar sail gosteffeithiol".