Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig heddiw ynghylch polisi Llywodraeth Cymru ar gynyddu faint o fywyd gwyllt sydd ar ffermydd, soniodd yr AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, am yr angen i amddiffyn y gylfinir.
Pwysleisiodd Mr Isherwood, sy'n Hyrwyddwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer y Gylfinir, mai'r gylfinir yw’r rhywogaeth adar â blaenoriaeth cadwraeth uchaf yn y DU, a rhagwelir y bydd yn diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru o fewn degawd os na cheir ymyrraeth.
Meddai:
"Dengys tystiolaeth y byddai adferiad y gylfinir o fudd i tua 70 o rywogaethau. Sut rydych chi'n ymateb felly i'r llythyr a anfonwyd atoch gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt, elusen gadwraeth sy'n gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni manteision bioamrywiaeth ac amgylcheddol, ac sydd ar hyn o bryd yn arwain prosiect cydweithredol Cysylltu Gylfinir Cymru, gyda'r nod o atal dirywiad y gylfinir yng Nghymru, sy'n dweud, 'Gwyddom fod gan ffermwyr ddiddordeb mewn gwella faint o fywyd gwyllt sydd ar eu ffermydd, ond credwn fod yn rhaid ei wneud ar y cyd â rhedeg busnes ffermio sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn darparu manteision lluosog, gan y byddai ffermwyr yn dweud wrthych na allant fod yn wyrdd os ydynt yn y coch'?
"A sut y byddech chi'n ymateb i'r cyflwyniad gan is-grŵp amaeth Gylfinir Cymru i'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cynnwys y gofyniad ar gyfer 10 y cant o orchudd coed fesul daliad, ac y gallai'r elfen coed perthi arwain at ganlyniadau negyddol i ylfinirod?
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Ar y pwynt olaf, yn y cyfnod paratoi yr ydym yn ei wneud nawr, gallwn ystyried yr effeithiau ehangach hynny, wrth inni anelu at gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda thirfeddianwyr a ffermwyr. Felly, mae'r cyfnod paratoi hwn yn rhoi cyfle inni ystyried yr effeithiau ehangach hynny.
Rydych chi'n sôn yn benodol am y partneriaid allan yno sydd wedi cyflwyno cynigion ynglŷn â sut i ddelio â hyn, wel, rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw un a all ein helpu i adfer y gylfinir, ac mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, drwy'r gronfa rhwydweithiau natur."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod 'yr hoffter cyhoeddus eang o'r rhywogaeth eiconig hon, a'r ecosystemau a'r cynefinoedd y mae'n eu defnyddio' ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, wneud adferiad y gylfinirod, a rhywogaethau eraill, yn stori lwyddiant yng Nghymru."