Yn y ddadl ddoe ar 'bolisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd', siaradodd Mark Isherwood AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio, a phleidleisiodd o blaid diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' i amddiffyn cymunedau a thirweddau yr effeithir arnyn nhw yng Nghymru.
Cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd welliant ychwanegol oedd yn gofyn am asesiadau effaith ar iechyd wrth osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear ger cartrefi.
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae gosod ceblau sy'n darparu pŵer trydanol neu delathrebu o dan y ddaear yn hytrach na'u hongian ar bolion neu dyrau yn helpu i wella dibynadwyedd y system a lleihau'r risg o doriadau trydan yn ystod gwyntoedd cryfion, stormydd mellt, eira trwm neu stormydd iâ.
“Mae eu gosod o dan y ddaear hefyd yn helpu i atal tanau gwyllt.
“Budd ychwanegol yw estheteg y dirwedd heb y llinellau pŵer.
“Er y gall gosod ceblau o dan y ddaear gynyddu cost gyfalaf trawsyrru a dosbarthu pŵer trydan, mae'n lleihau costau gweithredu dros oes y ceblau.
“Ymhellach, mae cyfrifiadau gan ddatblygwyr sy'n dangos bod cost gosod ceblau o dan y ddaear tua dwywaith y gost o osod llinellau uwchben yn anwybyddu'r costau datgomisiynu sy'n rhaid digwydd—miliynau ar draul talwyr biliau trydan y DU ar ôl 30 mlynedd—lle nad oes unrhyw gostau datgomisiynu gyda cheblau tanddaearol.
"Er bod yna faterion cysylltiedig eraill i'w hystyried hefyd, megis topograffeg a daeareg, rhaid inni ystyried yr effaith ar gymunedau lleol hefyd.
“Er enghraifft, dywedodd cynrychiolwyr y gymuned yng Nghefn Meiriadog, Llanelwy, wrthyf y llynedd, 'mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ymhell o ogledd Cymru sy'n effeithio'n uniongyrchol ac yn anghymesur ar gymunedau gogledd Cymru: mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n ddi-drefn, yn dangos rheolaeth wael, os o gwbl, ar effeithiau cronnus, ac wedi eu harwain gan gwmnïau sy'n gwneud elw mawr iawn heb fawr o sylw i gymunedau yr effeithir arnynt heblaw'r digwyddiadau wyneb yn wyneb gorfodol a chronfeydd budd cymunedol a addewir.'
"Safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yw bod angen diwygio polisïau cynllunio cysylltiedig yng Nghymru.
"Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir y dylid gosod ceblau o dan y ddaear, ond mae datblygwyr yn aml yn dweud nad yw hynny'n ymarferol yn ariannol.
"Fodd bynnag, dylid cynllunio'r holl ddatblygiadau hyn, yn y lle cyntaf, i gydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru.
"Felly mae angen i Weinidogion Cymru wneud ymdrech well wrth ddilyn eu canllawiau eu hunain, yn hytrach na chaniatáu i ddadleuon yn ymwneud â chost gyfiawnhau osgoi'r polisïau cynllunio hyn.
"Er mwyn hwyluso hyn ac i sicrhau ymgysylltiad rhagweithiol ag iddo ffocws gwell gyda chwmnïau ynni, mae'n amlwg fod angen cryfhau'r geiriad cysylltiedig ym Mholisi Cynllunio Cymru.
"Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn, gan gynnig gwelliant ychwanegol yn galw ar Lywodraeth Cymru 'i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, fod ceisiadau ar gyfer gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear yn cynnwys asesiadau effaith ar iechyd lle mae eu hagosrwydd at anheddau yn codi pryderon iechyd difrifol ar gyfer y dyfodol'.
Er i'r gwelliant hwn gael ei basio, fe drechodd Llafur y cynnig terfynol wedyn.