Roedd hi'n fraint gan yr AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, agor gŵyl gerddoriaeth 'Gŵyl Ali' heddiw, gŵyl er cof am gerddor o Sir y Fflint.
Mae 'Gŵyl Ali' hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o symptomau a chymhlethdodau diabetes Math 1.
Roedd Alastair Thomas, sy'n cael ei adnabod fel Ali, yn ganwr a cherddor o'r Fflint.
Yn anffodus, collodd ei fywyd o ganlyniad i ketoacidosis diabetig (DKA), cyflwr difrifol sy'n effeithio ar bobl â diabetes math 1 ac o dro i dro ar bobl â diabetes math 2.
Heddiw, cynhaliwyd gŵyl gerddoriaeth er cof amdano yng Nghlwb Pêl-droed Rhydymwyn.
Mam Ali, Dee Pinnington, a ofynnodd i Mr Isherwood siarad yn y digwyddiad am y rhan bwysig y gall pob teulu a ffrind ei chwarae wrth gefnogi unrhyw un sy'n byw gyda diabetes Math 1, yn ogystal â son am y rôl mae Mark wedi’i chwarae wrth fynd â hanes Ali i'r Senedd.
Wrth annerch y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad cyntaf, dywedodd:
"Roedd Ali yn gerddor hynod dalentog a helpodd gerddorion lleol eraill ar ddechrau eu taith.
"Fis Hydref eleni, bydd hi'n chwe blynedd ers i Ali farw o Ketoacidosis Diabetig, a elwir hefyd yn DKA, cymhlethdod a ddaeth yn sgil ei ddiabetes Math 1.
"Roedd Ali yn ganwr, cyfansoddwr caneuon a thad, mab a brawd annwyl. Roedd yn byw bob dydd i'r eithaf ac mae ei deulu’n gweld ei eisiau’n fawr iawn.
"Ni ddylai ei farwolaeth drist fod wedi digwydd.
"Fel y dywedais yn Siambr y Senedd, prif flaenoriaeth ei fam ers ei farwolaeth yw sicrhau ymwybyddiaeth o DKA. Bellach yn ei chweched flwyddyn o ymgyrchu, mae Dee Pinnington, sydd, fel ei mab, yn byw gyda diabetes math 1, yn parhau â'i hymdrechion hanfodol.
"Fel y dywedais hefyd yn y Senedd, mae ymwybyddiaeth o DKA mor hanfodol ag erioed, yn enwedig yn ystod pwysau digynsail ar ein gwasanaethau iechyd.
"Gall deall y symptomau a rhybuddio gwasanaethau meddygol yn iawn, fel y gallant gategoreiddio eu cymorth a blaenoriaethu ambiwlans, olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
"Mae taflen ddwyieithog Dee, "When Someone you Love has type 1 Diabetes: Knowing what to do in a emergency", er cof am Ali, yn cael ei chefnogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol a Diabetes UK Cymru, ac mae wedi cael ei rhannu'n ddigidol ymysg Meddygon Teulu ledled Cymru.
"Galwodd ymgyrchwyr hefyd am i gynnwys y daflen hon fod ar gael ar ap GIG Cymru."
Ymhlith y perfformiadau yn yr ŵyl roedd:
- RKID,
- MonkeyWrench- The Best of Foos,
- Muddy Elephant,
- Scott Royle Music,
- DJ Chris Thomas,
- Adele Crimes,
- Wax Lyrical,
- Flint Guitar School,
- The New Kid Sphelm,
- SMITHSON
- a BREACH.
Bydd yr holl arian a godir o'r digwyddiad yn mynd i Diabetes UK (DUK) Cymru.
Am ragor o wybodaeth am arwyddion a symptomau DKA, ewch i Diabetic ketoacidosis (DKA) | Symptomau a thriniaeth cetosis | Diabetes UK