Mae Mark Isherwood, yr AS dros y Gogledd a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, ar Anabledd ac ar Faterion Byddar, wedi galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, y Cod ADY.
Fe wnaeth Mr Isherwood, a gafodd gyfarfod â’r ymgyrch Diwygio ADY Cymru ym mis Mai i drafod y rhesymau wrth wraidd eu deiseb a ddenodd 15,160 o lofnodion i Bwyllgor Deisebau'r Senedd yn galw am ddiwygio Cod ADY Llywodraeth Cymru, godi’r mater yn y Datganiad Busnes ddoe.
Meddai:
“Wrth ymateb yma i'r ddadl ar 8 Mai ar y ddeiseb ar hyn, daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r casgliad: 'rydyn ni’n clywed yn rhy aml fod teuluoedd plant ag ADY yn gorfod brwydro am y gefnogaeth a'r addysg gywir, a rhaid i hyn newid'.
“Fe wnes i gyfarfod wedyn ag ymgyrch Diwygio ADY Cymru.
“Rwy'n galw am Ddatganiad yn ateb eu cwestiwn: 'O ble mae'r atebolrwydd ar hyn yn dod?' “
Meddai’r Trefnydd, Jane Hutt AS:
“Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi clywed eich galwadau, o ran edrych ar y cod ADY a'r hyn y mae'n ei olygu a sut mae'n cael ei gyflawni. Mae'n ymwneud â gweithredu, sef yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Addysg yn ymwneud ag ef.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
“Yn fy nghyfarfod gydag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, fe wnaethant rannu’r wybodaeth maen nhw wedi'i chasglu a dweud wrthyf nad yw'r system newydd yn gweithio, eu bod wedi derbyn straeon di-rif am blant a fethwyd neu a adawyd ar ôl gan y system newydd, eu bod yn derbyn toreth o geisiadau am gymorth, bod plant a rhieni'n cael eu beio a'u cosbi, a'u bod yn derbyn mwy fyth o dystiolaeth o drawma yn dod o'r ysgol am nad yw athrawon ac ysgolion yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi – a gofynnodd 'o ble mae'r atebolrwydd yn dod?' “
“Mae'n hanfodol bod eu cwestiwn yn cael ei ateb a byddaf yn chwilio am gyfle pellach i godi hyn yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.”