Wrth siarad fel Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, mae AS Gogledd Cymru Mark Isherwood, wedi tynnu sylw at faterion llywodraethu difrifol yn Amgueddfa Cymru a arweiniodd at gostau sylweddol i bwrs y wlad, fel rhan o setliad “anarferol” a “dadleuol’.
Arweiniodd anghydfodau’n ymwneud â chyn Gyfarwyddwr Cyffredinol y sefydliad, y cyn Lywydd a’r cyn Brif Swyddog Gweithredu at gost i’r pwrs cyhoeddus o dros £750,000, gyda Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £40,500 at gost gyffredinol y Cytundeb Setliad.
Yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe, siaradodd Mr Isherwood am bryderon y Pwyllgor ynghylch trefniadau llywodraethu Amgueddfa Cymru a amlygwyd yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor ar eu Cyfrifon ar gyfer 2021-22, a’r angen i ddysgu gwersi ar draws y sector cyhoeddus ehangach. Cyhoeddwyd Adroddiad y Pwyllgor ym mis Mehefin 2024.
Wrth arwain Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor, dywedodd Mr. Isherwood:
“Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ddiolchgar am y cyfle i drafod ein hadroddiad ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021-22, a gododd faterion llywodraethu difrifol gan arwain at gostau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei gyhoeddi ar 26 Mehefin eleni.
“Cododd Archwilydd Cyffredinol Cymru bryderon yn Adroddiadau Ariannol yr Amgueddfa ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Arweiniodd hyn at ddiddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn yr amgylchiadau yn gysylltiedig â chyfres o anghydfodau’n ymwneud â chyn-gyfarwyddwr cyffredinol, cyn-lywydd a chyn-brif swyddog gweithredu'r sefydliad.
“Datgelodd gwaith dilynol yr archwilydd cyffredinol faterion llywodraethu difrifol yn ymwneud â'r setliad ariannol gyda'r cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol, y mae eu manylion wedi'u nodi yn ei Adroddiad Budd y Cyhoedd, a allai fod o ddiddordeb i'r Aelodau.
“Roedd Amgueddfa Cymru’n destun adolygiad teilwredig gan Lywodraeth Cymru hefyd, y cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2023 a gwnaeth 77 o argymhellion, 27 ohonynt yn ymwneud â llywodraethu. Yn ei Adroddiad Budd y Cyhoedd, daeth yr archwilydd cyffredinol i'r casgliad fod y setliad gyda'r cyn-Gyfarwyddwr yn 'anarferol' ac yn 'ddadleuol', barn a rannai'r Pwyllgor.
Ychwanegodd:
“Roedd y Pwyllgor yn bryderus iawn fod y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion yn gwbl anfoddhaol. Roedd methiant cysylltiadau ar lefel uwch yn risg ragweladwy a ddylai fod wedi cael ei hadlewyrchu yn eu polisïau a'u gweithdrefnau. Er bod y Pwyllgor yn fodlon bod ceisio setliad yn well na symud ymlaen i dribiwnlys cyflogaeth, ar ôl adolygu'r cyngor cyfreithiol preifat a rannwyd gyda'r Pwyllgor, nid oeddem yn fodlon â'r rhesymeg dros y ffigur a benderfynwyd ar gyfer y setliad, a oedd yn seiliedig ar gyfnod rhybudd o 22 mis, pan nodai contract cyflogaeth y cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol gyfnod rhybudd o 12 mis yn unig. Yn wir, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod i’r casgliad nad oedd yr amgueddfa wedi gallu dangos ei bod wedi gweithredu er budd gorau'r pwrs cyhoeddus”.
“Ar adeg adroddiad Budd y Cyhoedd yr Archwilydd Cyffredinol i'r mater hwn, cyfanswm costau posibl y taliad i'r cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol oedd £325,698, gyda chostau cyfreithiol a phroffesiynol allanol pellach o £419,915, sy'n golygu cyfanswm setliad o £757,613. Mae hyn yn cynnwys taliad a wnaed i'r cyn-Brif Swyddog Gweithredu, a ymddeolodd ar sail afiechyd. Mae hyn yn destun cryn bryder yn yr hinsawdd ariannol bresennol, pan ellid bod wedi osgoi'r costau hyn pe bai trefniadau llywodraethu cryfach ar waith. Roedd y pwyllgor yn drist o glywed am y pwysau ariannol sy'n wynebu Amgueddfa Cymru, gyda thua 90 o swyddi i'w colli a chynllun diswyddo gwirfoddol yn ei le.”
Pwysleisiodd Mr Isherwood hefyd fod y Pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu penodi cyn Lywydd yr Amgueddfa i arwain adolygiad o Cadw, sy’n gweithredu yn yr un sector treftadaeth a diwylliant â’r Amgueddfa.
Mynegodd Mr Isherwood bryder bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod un o argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud ag adolygiad o’r polisïau cwyno mewn sefydliadau tebyg eraill.
Ychwanegodd:
“Mae'r pwyllgor yn fodlon fod yr Amgueddfa wedi ymateb i'r sefyllfa anffodus hon a’i bod mewn gwell sefyllfa i ymdrin â sefyllfa debyg yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig fod gwersi wedi'u dysgu ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng ngoleuni'r problemau hyn, ac rydym yn pryderu y gallai sefyllfa debyg ddigwydd mewn mannau eraill heb ymyrraeth fwy cadarn gan Lywodraeth Cymru. Gwaethygir y risgiau hyn yn sgil cyflwyno'r model hunanasesu ar gyfer adolygu, fel yr amlinellais uchod, a allai arwain at fethu mynd i'r afael â phroblemau mawr mewn cyrff cyhoeddus nes bod niwed sylweddol yn digwydd.
“Bydd y Pwyllgor yn craffu gyda diddordeb ar drosolwg Llywodraethu Cymru o'i gyrff hyd braich a chyrff cyhoeddus. Rydym yn annog ein Pwyllgorau polisi cyfatebol i wneud yr un peth, o ystyried ein pryderon.”