Gan dynnu sylw at fethiannau yng nghofal iechyd menywod yng Nghymru, mae’r AS dros y Gogledd, Mark Isherwood heddiw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i helpu menywod I "deimlo eu bod wedi'u grymuso yn eu hiechyd a bod ganddynt yr hyder i ymweld â'u meddyg teulu os ydyn nhw'n teimlo bod rhywbeth o'i le".
Yn nadl yr Aelodau heddiw ar 'ofal iechyd menywod', tynnodd Mr Isherwood sylw at nifer o feysydd lle mae menywod yn cael eu methu gan y system gofal iechyd yng Nghymru.
Siaradodd yn helaeth am Ganser yr Ofarïau a'r ffaith bod gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi gwaethaf ar gyfer canser yr ofarïau yn Ewrop.
Anogodd hefyd Lywodraeth Cymru i wrando ar ganfyddiadau Marie Curie y gall rhywedd effeithio ar brofiadau gofal lliniarol a diwedd oes.
Meddai:
“Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae mwy o fenywod yn marw o ganlyniad i ganser yr ofarïau yn y DU nag unrhyw un neu bob canser gynaecolegol arall gyda’i gilydd, ac eto mae’r clefyd hwn yn parhau i gael ei anghofio.
“Wrth siarad yma ym mis Ionawr 2022, anogais Lywodraeth Cymru i ymateb i’r alwad am ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau yng Nghymru. Nodais hefyd, po gynharaf y gwneir diagnosis o ganser yr ofarïau, yr hawsaf yw hi i'w drin, ac eto yng Nghymru, dim ond 15 y cant o fenywod a fyddai’n gwneud apwyntiad brys i weld meddyg teulu pe bai ganddynt fol chwyddedig parhaus fel symptom, ac mae angen i hynny newid.
“Ym mis Ebrill y llynedd, cynhaliais dderbyniad Braenaru Cymru Target Ovarian Cancer yn y Senedd, lle gwneuthum bwysleisio, neu fynegi siom, er gwaethaf y ffaith bod Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i gelwid ar y pryd wedi llunio adroddiad yn 2017 yn galw am ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, hyd hynny, nid oedd unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth benodol wedi bod ar gyfer canser yr ofarïau.
“Yn rhy aml, nid yw poen ac anghysur menywod wedi cael eu hystyried o ddifrif, ac nid ydynt wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am gyflyrau a chanserau gynaecolegol.”
Ychwanegodd:
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau’r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau’r GIG yn y datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched, gan helpu i wella ymwybyddiaeth ac addysg meddygon teulu.
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y bydd yn cymryd camau i wella ymwybyddiaeth o ganserau gynaecolegol nad oes rhaglen sgrinio hyfyw ar eu cyfer, fel canser yr ofarïau. Mae'n rhaid i fenywod deimlo eu bod wedi'u grymuso mewn perthynas â'u hiechyd a bod ganddynt hyder i ymweld â'u meddyg teulu os ydynt yn teimlo bod rhywbeth o'i le.”
Cyfeiriodd at alwadau Target Ovarian Cancer am ymgyrch ymwybyddiaeth a ariennir gan y Llywodraeth, fel bod pawb yn gwybod symptomau canser yr ofarïau, ac am lwybr diagnostig byrrach ar gyfer canser yr ofarïau, gyda chefnogaeth a hyfforddiant i feddygon teulu.
Meddai:
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wrando ar eu galwad.
“Rwyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar ganfyddiadau Marie Curie y gall rhywedd effeithio ar brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Ychwanegodd:
“Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gall normau cymdeithasol a rhagfarn ar sail rhywedd effeithio ar ddealltwriaeth a barn menywod am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, a allai arwain at anghydraddoldebau yn y ffordd y mae menywod yn meddwl am, yn gwneud penderfyniadau ynghylch, ac yn y pen draw, yn cael mynediad at driniaethau a allai wella ansawdd eu bywydau. Felly, mae angen gwell mynediad at ddata a thystiolaeth am fynediad menywod at ofal lliniarol a gofal diwedd oes, a'u profiad ohono, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion menywod. Ac mae'n rhaid cynnwys gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y cynllun iechyd menywod a merched.”