Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers dros 9 mlynedd gyda phobl anabl ac eraill ledled Sir y Fflint i gael gwared ar rwystrau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru wedi codi'r mater heddiw yn y Senedd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood fod y sefyllfa bresennol yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb y DU (2010) a'r fframweithiau cyfreithiol a pholisi yng Nghymru a gofynnodd i'r Cabinet pa gamau y mae’n eu cymryd yn erbyn y fath achosion o dorri deddfwriaeth.
Ar ôl gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn monitro sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet "mai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd â'r cyfrifoldeb o reoleiddio a gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus", dywedodd Mr Isherwood:
“Wrth gwrs, mae ganddynt bwerau cyfyngedig i fynd ar drywydd achosion unigol. Ond ers dros naw mlynedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl anabl ac eraill ledled sir y Fflint sy'n ceisio gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i gael gwared ar bob rhwystr ar hyd llwybr arfordir Cymru, a reolir gan y cyngor, i ganiatáu mynediad i bawb. Mae'r ymgyrch yn cynnwys Trefnu Cymunedol Cymru, elusen sy'n cefnogi 40 o grwpiau sy'n aelodau i fynd i'r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Cycling UK, Canolfan Byw'n Annibynnol TheFDF, Sustrans Cymru, Disabled Ramblers UK, Wheels for Wellbeing, Chester Wheelers, a phobl sydd â phrofiad bywyd o effaith y rhwystrau hyn arnynt.
“Mae'r sefyllfa bresennol yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 a fframweithiau cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint ei hun.
“Cysylltodd Age Cymru â mi hefyd yng nghyd-destun y Ddeddf Cydraddoldeb ar ôl i ymatebwyr i'w harolwg blynyddol nodi bod mannau cyhoeddus yn dod yn fwyfwy anhygyrch i bobl hŷn oherwydd diflaniad toiledau cyhoeddus, meinciau, palmentydd wedi'u gostwng a darnau hanfodol eraill o seilwaith.
“Pa gamau y gallwch chi eu cymryd felly pan fydd achosion o dorri'r ddeddfwriaeth fel y rhain yn cael eu nodi gan gyrff allanol a phobl sydd â phrofiad bywyd?
Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant AS, i Mr Isherwood am "godi'r math yma o faterion dros nifer o flynyddoedd", ac am ei hanes hirsefydlog o weithio gyda grwpiau pobl anabl.
Ychwanegodd:
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol yn hyrwyddo'r Ddeddf Cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys mewn partneriaeth gymdeithasol, trwy gyngor partneriaeth y gweithlu, ac mae cyngor partneriaeth y gweithlu wedi hyrwyddo'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar draws y sector cyhoeddus, partneriaid cymdeithasol, ac wedi cynhyrchu amryw o ddatganiadau ac adroddiadau ar amrywiaeth, monitro a phethau fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod hefyd yn dod o hyd i feysydd o arferion gorau a sut y gallwn rannu hynny.”
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
"Heb fonitro, gwerthuso a, lle bo angen, ymyrryd, mae ymrwymiadau a pholisïau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yr un mor ddefnyddiol â thebot wedi’i wneud o siocled."