Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood wedi rhybuddio y bydd y cynnydd sylweddol mewn Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn rhoi pwysau enfawr ar elusennau a chyrff y trydydd sector ac yn effeithio ar eu darpariaeth gwasanaeth.
Cododd Mr Isherwood y mater yn y Senedd ddoe a galwodd ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AS, i'w cefnogi.
Meddai:
“Un o ganlyniadau niweidiol cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU oedd y codiad i'r yswiriant gwladol i elusennau a chyrff trydydd sector.
“Mae ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd y cynnydd treth blynyddol cyfartalog i gyflogwyr yn fwy na £800 y gweithiwr. Gyda thua 134,500 o bobl yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, hyd yn oed gyda gwaith rhan-amser, byddai hyn yn awgrymu cynnydd o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn ym mil yswiriant gwladol y sector.
“Fel y dywed llythyr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru atoch: ‘Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.
'Mae’r cynnydd hwn...yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'
“Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn, felly beth, os o gwbl, y byddwch chi'n ei ddarparu i'r sector elusennol i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn a lliniaru'r polisi annoeth hwn?
Yn ei ymateb, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford AS, y bai ar "waddol y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth flaenorol honno.".
Wrth siarad y tu allan i'r cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mewn gwirionedd, mae hyn yn bygwth toriadau i wasanaethau hanfodol ac o ganlyniad bydd pwysau adnoddau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus, yn union fel y mae'r Gyllideb hon yn bygwth cadw chwyddiant, cyfraddau llog a chyfraddau morgais yn uwch, gan arwain at dwf arafach yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac felly refeniw treth is a llai o wariant gan y Llywodraeth".