Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU drwy gefnogi cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan Storm Babet a darodd yn ddiweddar.
Ar ôl mynychu Cyfarfod Cyhoeddus am lifogydd Brychdyn yn ddiweddar, lle clywodd y mynychwyr gan drigolion yr oedd eu cartrefi wedi dioddef llifogydd yn y storm, gofynnodd Mr Isherwood i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw gyllid ychwanegol i helpu cymunedau a effeithiwyd hyd yma.
Meddai:
“Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cymorth i helpu cymunedau yn Lloegr i adfer ar ôl Storm Babet sef hyd at £500 i gartrefi a gafodd lifogydd ar gyfer costau uniongyrchol a hyd at £5,000 i wella gallu eu cartrefi i wrthsefyll llifogydd, gyda chyllid o gyllidebau cyfredol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyllid canlyniadol ar y pryd hefyd ond nid yw wedi cyhoeddi unrhyw gyllid ychwanegol i Gymru. Ac, fel y gwyddoch chi Weinidog, mae yna wahaniaeth rhwng Cyllidebau Adrannol ac arian newydd o’r Trysorlys.
“Wrth ymateb yn y Cyfarfod Cyhoeddus am lifogydd Brychdyn 11 diwrnod yn ôl, dywedodd Swyddog o Gyngor Sir y Fflint eu bod wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am Gynllun Lliniaru Llifogydd i’r Wyddgrug, yn dilyn astudiaeth yn 2017 a gwaith modiwlaidd dilynol ar hyn yn y Cyngor, ac am waith a nodwyd gan Ymchwiliad Llifogydd Adran 19 y maent yn ei lansio ag asiantaethau eraill yn awr ar ôl i eiddo yn Brychdyn a Bretton ddioddef llifogydd eto.
“Felly, pa obaith sydd gan geisiadau o’r fath i lwyddo, o gael eu drafftio’n briodol, eu rhoi at ei gilydd yn iawn gyda thystiolaeth briodol gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael?”
Atebodd y Gweinidog:
“Rwy’n credu bod hwnnw’n gwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd gan fod cyllid ar gyfer llifogydd yn rhan o’i phortffolio.”
Yn ddiweddarach yn y cyfarfod, gofynnodd Mr Isherwood i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, pa drafodaethau mae wedi’u cael â’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch pa mor amserol a buan y bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i geisiadau, ac a oes digon o arian i’w gael ar eu cyfer?”
Meddai:
“Cafodd fflatiau llawr gwaelod yn yr Wyddgrug eu heffeithio gan Storm Babet, sef y seithfed achos o lifogydd fwy neu lai mewn saith mlynedd, gyda’r diweddaraf yn 2021. Ac eto, argymhellodd Astudiaeth Cynllun Lliniaru Llifogydd yr Wyddgrug yn 2017, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir y Fflint, y dylid cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru am gadarnhad bod £5.5 miliwn o gyllid ar gael. Pan godais hyn yn y Cyfarfod Cyhoeddus ar lifogydd Brychdyn 11 diwrnod yn ôl, dywedodd Swyddog o’r Cyngor eu bod wedi rhannu hyn yn fodiwlau yr oeddynt yn gweithio arnynt, cyn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru.
“Ar ôl i mi drafod problemau ym Mrychdyn ar ran trigolion yr effeithiwyd arnynt yn 2021, roedd rhaid i mi aros 19 mis am ymateb llawn gan Gyngor Sir y Fflint. Ond roedd hynny’n cynnwys y Cyngor yn dweud y byddai’n rhoi blaenoriaeth i drigolion oedrannus a bregus, ac i fannau hysbys sy’n dioddef llifogydd, lle bo modd.
“Fodd bynnag, ar ôl Storm Babet, cefais negeseuon gan, ac ar ran, trigolion oedrannus a bregus a oedd yn byw mewn mannau hysbys sy’n dioddef llifogydd, a oedd wedi methu cael gafael ar y Cyngor neu adnoddau, yn cynnwys bagiau tywod, ac a oedd wedi dioddef llifogydd eto.
“Yn y Cyfarfod Cyhoeddus, dywedodd Swyddog o’r Cyngor eu bod yn gweithio gydag asiantaethau eraill yn awr i ddatblygu Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd Adran 19 cyn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru. Felly, pa drafodaethau, yn dilyn fy nghwestiwn i’r Gweinidog Cyllid yn gynharach, ydych chi wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â pha amserol a buan y bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i geisiadau o’r fath, ac a oes digon o adnoddau ar eu cyfer?”
Dywedodd y Gweinidog nad yw wedi cael unrhyw drafodaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwyntiau a godwyd gan Mr Isherwood, ond y byddai’n tynnu ei sylw atynt a gofyn iddi ysgrifennu ato.