Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw unwaith eto at y problemau y mae trigolion anabl yn y Gogledd yn eu profi wrth wneud cais am Fathodynnau Glas a'u derbyn, ac mae wedi galw am gyfle i Aelodau o'r Senedd godi'r problemau hyn yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fel y gall Llywodraeth Cymru ymateb yn fanwl iddyn nhw.
Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd ddoe, galwodd Mr Isherwood, a siaradodd yn y Siambr ym mis Gorffennaf am yr "anghysondebau, aneffeithlonrwydd ac anghyfiawnderau difrifol sy’n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol", am Ddatganiad Llywodraeth Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar Drwyddedau Parcio Bathodyn Glas, oherwydd, dywedodd bod "pobl yn cael eu brifo".
Wrth godi'r mater yn y Datganiad Busnes, dywedodd:
“Dydyn nhw ddim yn cael gwybod gan awdurdodau lleol eu bod yn gallu apelio. Pan fyddan nhw'n dod at Aelodau'r Senedd a chael gwybod y gallan nhw apelio, ac yn ei gyfeirio, maen nhw wedyn yn wynebu ffurflen 15 tudalen y mae llawer yn ei chael hi'n anodd delio â hi.
“Yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ym mis Gorffennaf, siaradais i am yr anghysonderau difrifol o ran effeithlonrwydd a'r anghyfiawnderau sy'n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, a chyfeiriais at ddeiseb y Senedd i wneud ceisiadau am fathodynnau glas am oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes, wedi'i gyflwyno gan gwmni buddiannau cymunedol Stronger Together for Additional Needs and Disabilities yn y gogledd, a ddywedodd wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod wedi darganfod trwy ymchwil nad oedd awdurdodau lleol naill ai'n ymwybodol o ddyfarniadau am oes, neu fod ganddyn nhw ddealltwriaeth wahanol o'r hyn yr oedd yn ei olygu.
“Ar ôl cyfarfod â STAND y gogledd yn gynharach y mis hwn, pan drafododd teuluoedd eu profiadau gan fynegi arwyddocâd dyfarniad am oes iddyn nhw, dywedodd y gwas sifil yn nhîm Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, sydd â'r cyfrifoldeb am bolisi cynllun y bathodyn glas, wrthyn nhw y bydd nawr yn treulio amser yn gweithio drwy'r materion a gafodd eu codi, a'u trafod gyda'r Ysgrifennydd Cabinet fel y gall Llywodraeth Cymru ymateb yn fanwl iddyn nhw.
“Ond mae'r mater hollbwysig hwn yn haeddu mwy na hynny. Mae'n gofyn am ddatganiad i'r Senedd lawn, a chyfle i Aelodau ar draws y Siambr holi'r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch hyn.”
Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd y byddai'n "tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru at hyn".
Ychwanegodd: "Wrth gwrs, bydd ganddo hefyd ei gwestiynau llafar yn y Senedd yr wythnos nesaf, felly mae cyfle i'w godi yno hefyd."
Wrth sôn am y mater yn ddiweddarach, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae hi'n gwybod yn iawn mai loteri yw cwestiynau llafar y Senedd ac ni all Aelodau godi cwestiynau o'u dewis yn unig".