Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid, Mark Isherwood AS, wedi rhannu pryderon Crwner yn y Senedd ynghylch y gofal y mae cleifion yng Ngogledd Cymru’n ei dderbyn a gofynnodd i'r Cwnsler Cyffredinol pa gyngor y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r mater, o gofio bod galwadau’n cael eu gwneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod yn destun Ymchwiliad Cyhoeddus.
Cafodd y saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru gyfanswm o 46 o 'adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol' (PFD), o fis Ionawr 2023 i fis Ebrill eleni, gyda Betsi Cadwaladr yn derbyn 28 - bedair gwaith cymaint ag unrhyw Fwrdd Iechyd arall yng Nghymru.
Yng nghyfarfod y Senedd ddoe, cododd Mr Isherwood gyda'r Cwnsler Cyffredinol y 28 o “Adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol” sy’n gysylltiedig â’r Gogledd dros gyfnod o 16 mis a chyfeiriodd at adroddiad ITV Cymru ar y mater.
Meddai:
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gogledd Cymru yn wynebu galwadau i fod yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i 28 o 'adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol' gael eu cofnodi dros gyfnod o 16 mis, mwy na'r cyfanswm a roddwyd i'r chwe Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae adroddiad arbennig gan ITV Cymru’n datgelu maint pryderon crwneriaid am y gofal y mae pobl yn ei dderbyn gan y Bwrdd Iechyd hwn cyn eu marwolaethau, gyda gŵr mewn profedigaeth yn rhybuddio y gallai'r nifer o 'Adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol' a gofnodir fod yn llawer uwch.
“Fel y gwyddoch, gall Crwner gyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol os oes ganddo bryderon ynghylch yr amgylchiadau lle bu rhywun farw, ac os yw'n ymddangos bod risg y bydd marwolaethau eraill yn digwydd. Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi hyder yn ôl yn y system ac yn helpu i wneud gwelliannau i broblemau hirsefydlog. Yn sgil pryder y cyhoedd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi felly i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn?
Wrth ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Wrth gwrs, mae gwasanaeth y crwner yn wasanaeth neilltuedig; mae'n rhywbeth rwy'n credu y dylid ei ddatganoli. Ond dylid cyfeirio'r holl feysydd eraill rydych chi wedi'u codi at yr Ysgrifennydd Cabinet priodol.”
Wrth ymateb, dywedodd Mr Isherwood:
“Rwy'n bryderus iawn, fel Cwnsler Cyffredinol, na fyddwch yn rhannu'r cyngor y mae'n anochel y byddwch wedi'i roi neu y gofynnir i chi ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar y materion hyn.”
Wrth siarad wedyn, ar ôl galw am Ymchwiliadau Cyhoeddus ar ddau fater arall, ychwanegodd Mr Isherwood:
“Yn ei ymateb, methodd y Cwnsler Cyffredinol â gwadu y byddai ganddo rôl gyffredinol allweddol i'w chwarae ar y materion hanfodol hyn sy'n peri pryder i'r cyhoedd, felly mae ei amharodrwydd i ymgysylltu â nhw yn peri pryder mawr.
“Mae'n ymddangos bod gofyn ysgwyddo cyfrifoldeb, lle mae gan weithredoedd ganlyniadau a rhaid i hyd yn oed Llywodraeth Lafur Cymru wynebu effeithiau eu penderfyniadau dros y 25 mlynedd diwethaf.”