Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn wynebu pwysau cynyddol

  • Tweet
Dydd Iau, 3 Hydref, 2024
  • Local News
Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn wynebu pwysau cynyddol

Mae’r AS dros y Gogledd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pwysau sy'n wynebu Cymdeithasau Tai yng Nghymru am eu bod nhw’n cymryd mwy o ddyraniadau tenantiaid o restrau blaenoriaeth.

Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Mr Isherwood eu bod hefyd yn cael trafferth gyda dyheadau Llywodraeth Cymru ynghylch datgarboneiddio.

Meddai:

“Mae cymdeithasau tai wedi dweud pryderon wrthyf, am eu bod yn cymryd mwy o denantiaid oddi ar restrau blaenoriaeth ac felly’n gweithio gyda phobl sydd mewn argyfwng neu sydd wedi bod mewn argyfwng, fod hyn yn cael effaith fawr, lle mae anghenion tenantiaid yn dod yn fwyfwy cymhleth a’r galwadau arnynt yn cynyddu wrth iddynt weithio gyda theuluoedd yr effeithir arnynt a chynnal eu cartrefi, a'u bod hefyd yn ei chael hi'n anodd gyda dyheadau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio lle mae eu gallu i gyflawni mewn gwirionedd, a dyfynnaf, yn 'amherthnasol', gyda thwll du enfawr yn y cyllid i'w wneud yn y ffordd y gofynnir iddynt ei wneud, a bod angen cydbwyso'r uchelgais gyda'r hyn sy'n realistig, gan weithio gyda thenantiaid i bennu'r ffordd orau ar gyfer cartrefi unigol. 

“Felly, wrth bennu'r safonau y mae’n disgwyl i gymdeithasau tai eu darparu o ran gofal tenantiaid, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r pryderon hyn?”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chredaf fod hwnnw’n ddull partneriaeth pwysig, yn ogystal â llywodraeth leol, gan fod pob un ohonom am weld cymaint o bobl â phosibl yn cael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, fel y dywedais, wedi datblygu hyb cymorth costau byw i rannu dysgu, cyngor ac arferion gorau â chymdeithasau tai, gan roi cymorth costau byw hanfodol i’w tenantiaid. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo. “
 

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree