Mae AS Gogledd Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Dai a Chynllunio, Mark Isherwood, wedi rhybuddio yn y Senedd y prynhawn yma fod Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru’n gwthio landlordiaid allan o'r sector rhentu preifat.
Yng Nghwestiynau'r Llefarydd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, dyfynnodd Mr Isherwood ffigyrau o adroddiad 'Gwerthuso Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Cam 1' a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Cafwyd 676 o ymatebion i'r Arolwg o landlordiaid ac asiantwyr rheoli, a chafodd 539 ohonyn nhw eu cwblhau'n llawn a nododd 479 effaith negyddol y newidiadau ar landlordiaid.
Hefyd, heriodd Mr Isherwood y Gweinidog ynghylch rheolaethau rhent arfaethedig Llywodraeth Cymru, a rhybuddiodd y byddai'n gorfodi mwy o landlordiaid i werthu.
Meddai:
“Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016 oedd y newid mwyaf i Sector Rhentu Preifat Cymru ers degawdau - a nododd y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) 2020 dilynol Llywodraeth Cymru: 'Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rhan bwysig wrth ddiwallu anghenion tai pobl Cymru' a bod Llywodraeth Cymru am 'sicrhau bod y cydbwysedd cywir o ran cymorth a rheoleiddio yn y Sector Rhentu Preifat'.
“Yn y cyd-destun hwn, cyhoeddwyd Adroddiad 'Gwerthuso Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Cam 1' yr wythnos diwethaf. Cafwyd 676 o ymatebion i'r Arolwg o landlordiaid ac asiantwyr rheoli, a chafodd 539 ohonyn nhw’u cwblhau'n llawn a nododd 479 effaith negyddol y newidiadau ar landlordiaid.
“Un cwestiwn a ofynnwyd i ymatebwyr y gwerthusiad oedd: 'Pa effeithiau negyddol fydd y newidiadau o dan y Ddeddf yn eu cael arnoch chi fel landlord/asiant rheoli?'
Dywedodd 44% o'r holl ymatebwyr a nododd effaith negyddol i'r arolwg fod y Ddeddf yn gorfodi landlordiaid i werthu a gadael y sector.
“Fel y dywedais yn ystod proses ddeddfwriaethol Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) 2020, dyma'r hyn y rhybuddiodd ARLA Propertymark, y corff proffesiynol a rheoleiddiol ar gyfer Asiantau Gosod, a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl a fyddai'n digwydd.
“Felly, o ystyried eich geiriau yn 2020 eich bod am sicrhau’r 'cydbwysedd cywir o gefnogaeth a rheoleiddio', pa gamau, os o gwbl, fyddwch chi’n eu cymryd nawr i ailagor y ddeddfwriaeth i sicrhau nad yw’r Ddeddf yn gwthio landlordiaid da o'r Sector Rhentu Preifat?”
Aeth Mr Isherwood ymlaen i holi Ysgrifennydd y Cabinet am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheolaethau rhent.
Meddai:
“Rhwng Ionawr 2015 a Mehefin 2022 cododd prisiau rhent preifat yng Nghymru 8%, o'i gymharu â 12.6% ar draws gweddill y DU.
“Er gwaethaf hyn, deallir bod Llywodraeth Cymru’n dal i ystyried cyflwyno rheolaethau rhent.
“Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod polisïau rheoli rhent yn gallu arwain at lai o gyflenwad yn y farchnad – yn ogystal ag amrywiaeth o broblemau tai a marchnad lafur eraill.
“Ers cyflwyno Rheolaethau Rhent yn yr Alban yn 2022, mae rhenti cyfartalog ar denantiaethau newydd wedi cynyddu, gan godi bron i 14% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i renti ar denantiaethau presennol gael eu rhewi ac yna eu capio, ac mae gostyngiad o bron i 20% wedi bod hefyd yn yr eiddo rhent preifat sydd ar gael yn yr Alban dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov y byddai bron i 40% o Landlordiaid Preifat yn dweud y bydden nhw’n lleihau nifer yr eiddo y maen nhw’n eu gosod hyd yn oed gydag ymyrraeth 'ysgafn'.
“Os na all landlordiaid dalu costau cynyddol, bydd llawer yn lleihau eu portffolios, gan waethygu anawsterau cyflenwad presennol y Sector Rhentu Preifat a lleihau nifer y cartrefi cyntaf y gellir eu rhentu sydd ar gael.
“Felly, yn hytrach nag ymdrin â'r symptomau yn unig, pa bolisïau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad tai rhent mewn gwirionedd, a'r prinder ohonyn nhw yw'r rheswm, neu'r prif reswm, pam mae prisiau rhent wedi cynyddu?”