Mae Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gynllunio a Thai, Mark Isherwood AS, wedi codi pryderon yn Siambr y Senedd ynghylch oedi a bylchau yn y system o amddiffyn trigolion Cymru, er bod Llywodraeth Lafur Cymru yn honni bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â diwygio diogelwch adeiladau.
Wrth ymateb i'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar Ddiogelwch Adeiladau yn y Senedd ddoe, pwysleisiodd Mr Isherwood, yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, roedd angen clir a brys i fyfyrio ar drefniadau ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, ac i weld a yw'r sector diogelwch adeiladau yn cyflawni ei bwrpas. Er hynny, mae'n pryderu nad yw diwygiadau'n digwydd yn ddigon cyflym yng Nghymru.
Meddai:
“Roedd ymateb Llywodraeth y DU i ymchwiliad Hackitt wedi'i gynnwys yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022, y mae Rhan 3 ohoni hefyd yn berthnasol i Gymru,
“Mae hyn yn cynnwys:
- Caniatáu i Weinidogion Cymru ddiffinio adeilad risg uwch;
- Ei gwneud yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru wneud gwaith ar adeiladau risg uwch;
- A gofyn am gofrestru staff rheoli adeiladau.
“Y prif wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yw rôl rheoleiddiwr diogelwch adeiladau newydd, a fydd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
“Fodd bynnag, nododd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru y llynedd nad yw cyrff cyfrifol, yn enwedig awdurdodau lleol a thân ac achub, yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol a sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn ddiogel.’
“Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan yr archwilydd cyffredinol ynghylch absenoldeb cynlluniau cadarn, gwneud penderfyniadau clir ac adnoddau digonol, fel y gallan nhw sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn ddiogel?”
Holodd Mr Isherwood hefyd Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr amserlenni ar gyfer ail gam y drefn rheoli adeiladu newydd yng Nghymru, a'r ymgynghoriad ynghylch Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.
Gofynnodd hefyd sut y bydd hi'n sicrhau na fydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), y bwriedir ei gyflwyno yn 2025, "a fydd yn ôl pob tebyg yn golygu rheoliadau adeiladau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr", yn cymell datblygwyr ac adeiladwyr rhag adeiladu yng Nghymru, "yn enwedig o ystyried adroddiad diweddar y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a ganfu fod yn well gan rai cwmnïau Cymreig geisio gwaith dros y ffin oherwydd llyffetheiriau biwrocrataidd, tra nad gwmnïau [sic] adeiladu llai yn ymwybodol o ddeddfwriaeth newydd".
Meddai:
“Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yr wyf yn ei gadeirio, ei adroddiad 'Diogelwch Adeiladau yng Nghymru' ym mis Awst. Fe glywsom ni am faterion cynllunio gwasanaethau a gweithlu sy'n wynebu'r diwydiant sy'n gofyn am ymyrraeth a buddsoddiad pellach.
“Mae'n hanfodol bwysig bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod y diwydiant yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio ac yn denu ymgeiswyr newydd a all fod yn ddyfodol y sector.
“Credwn fod angen ymyrraeth gan y Llywodraeth ganolog i sicrhau newid cadarnhaol yn y maes hwn ac mae'r pwyllgor yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru gael effaith gadarnhaol yn gyflym.”
Hefyd, holodd Mr Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet am yr amserlenni ar gyfer datblygu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu Diogelwch Adeiladau, a gofynnodd pryd y bydd argymhelliad y Pwyllgor, "y dylai weithio gyda rhanddeiliaid yn y sector rheoli adeiladu i weithredu cynllun cenedlaethol ar gyfer recriwtio hyfforddeion a phrentisiaid", ac sydd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei weithredu.